Help llaw gydag astudio Y Mabinogi
Pecyn o sylwadau rhagymadroddol i gynorthwyo athrawon a chaniatáu i ddisgyblion gael gwybodaeth a chyfarwyddiadau fydd yn eu cynorthwyo wrth astudio’r Mabinogi ar gyfer y fanyleb Safon Uwch. Paratowyd y nodiadau hyn gan Yr Athro Gwyn Thomas ac fe roddir sylw i ddwy chwedl sef Branwen ferch Llyr a Culhwch ac Olwen.
