Mae'r uned yma yn cyflwyno gwahanol amseroedd yn ystod y dydd i ddisgyblion wrth ddilyn hynt a helynt bachgen o'r enw Gyn. Mae cyfle i osod trefn ar ddigwyddiadau'r diwrnod gyda darluniau ac ar daflen waith wrth dorri a gludo.
Mae geirfa a gyflwynir yn cynnwys: amser brecwast, amser cinio, amser te, bore, prynhawn, fin nos, nos.
Deilliannau a ddymunir:
- dechrau deall y syniad o amser
- rhoi pethau yn y drefn iawn
Cysylltau eraill:
Datblygiad mathemateg - cyfrif i 5.
Cysylltau Cymreig - rhifau 1 - 5 yn Gymraeg.
Gweithgaredd cychwynnol
Prif sesiwn
Sesiwn gloi