Cyflwyniad

Mae'r wers sgiliau meddwl CA1-CA2 hon yn galluogi disgyblion i drafod y bobl sy'n eu helpu. Mae'r gweithgareddau'n atgyfnerthu dealltwriaeth o bobl yn y gymuned: teitlau swyddi, swyddi y mae pobl yn eu gwneud a gwerth cymdeithasol y gwahanol broffesiynau.

Gêm gof a labelu yw'r Gweithgaredd cychwynnol.

Yn y Prif weithgaredd, mae gan y disgyblion y dasg o ddewis a threfnu pum proffesiwn yn ôl yr hyn a gredant yw'r mwyaf defnyddiol. Dylid gwneud y gweithgaredd mewn grwpiau. Bydd y mwyafrif y dosbarth yn defnyddio taflenni gwaith ond gall un grp ddefnyddio'r bwrdd gwyn ac argraffu eu casgliadau. Nid oes trefn gywir a dylid defnyddio'r canlyniadau fel ysgogiad ar gyfer trafodaeth bellach.

Mae'r sesiwn gloi yn atgyfnerthu'r cysyniad fod gan bawb rôl bwysig i'w chwarae mewn cymdeithas.

Gweithgaredd cychwynnol

Prif weithgaredd

Sesiwn gloi

 
© NGfL / GCaD Cymru