Cyflwyniad

Nodau

Dylai'r disgyblion:

  • ddeall swyddogaeth burum yn y broses o wneud bara.
  • gwybod pa effaith mae tymheredd a chrynodiad siwgr (swbstrad) yn ei chael ar raddfa godi toes bara.
  • deall bod angen rheoli newidynnau mewn ymchwiliadau.

Cynnwys

  • Rhagarweiniad (gan gynnwys animeiddiad) yn amlinellu sut mae burum yn peri i does godi.
  • Ffug ymchwiliad i effaith tymheredd/crynodiad siwgr ar gyfradd codi toes bara.
  • Tabl canlyniadau a graff i gymharu a chyflwyno canlyniadau'r ymchwiliad.
  • Tudalennau'r sesiwn gloi gyda dull cyfannu llusgo a gollwng a chwestiynau ymestyn i'w trafod.

Cysylltau manylebau'r Cwricwlwm Cenedlaethol/TGAU

Cwricwlwm Cenedlaethol: CA4 Prosesau bywyd a phethau byw - 2.2 a 2.8; Ymholiad Gwyddonol 1.1, 3.2-3.5 a 3.17.
CBAC Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl - Bioleg HO1 (2) a HO4 (1, 2)
CBAC Gwyddoniaeth Gymhwysol - Uned 2 1.1 (1), 1.3 (1), 1.4(3)

Gweithgaredd cychwynnol

Prif sesiwn

Sesiwn gloi

 
© NGfL / GCaD Cymru