Mae’r termau ar y rhestr hon yn agos at fod yn derfynol; efallai y bydd mân newidiadau eto yn sgil cyfnod o ymgynghori pellach.
| A | B | C | Ch | D | Dd | E | F | Ff | G | Ng | H | I | J | L | Ll | M |
| N | O | P | Ph |R | Rh | S | T | Th | U |W |Y |
addysg alwedigaethol vocational education |
Addysg sydd â’r nod o baratoi myfyrwyr at fywyd yn y gweithle. |
aelwydydd households |
Pobl sy’n rhannu lle byw. |
amddifadedd cymdeithasol cultural deprivation |
Nid oes mynediad at gyfalaf cymdeithasol gan rai pobl, felly nid ydynt yn ennill yr wybodaeth gymdeithasol sy’n gymorth i lwyddo. |
amddifadedd materol material deprivation |
Bod heb y pethau materol y mae eu hangen arnoch i gael safon byw dda. |
amrywiaeth ddiwylliannol cultural diversity |
Y gwahaniaethau rhwng diwylliannau. |
amrywiaeth deuluol family diversity |
Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r gwahanol fathau o drefn deuluol sy’n nodweddiadol o Brydain yn yr oes fodern. |
anabledd disability |
Anallu corfforol neu feddyliol i wneud rhywbeth y byddai’r mwyafrif o bobl eraill yn ei ystyried yn normal. |
anghydraddoldeb inequality |
Gwahaniaethau mewn lefelau mynediad at gyfoeth a grym rhwng grwpiau cymdeithasol. |
anghydraddoldeb cymdeithasol social inequality |
Mynediad anghyfartal at wobrau a grym mewn cymdeithas. |
ansoddol qualitative |
Mae hyn yn cyfeirio at ansawdd. Mae’n cyfeirio at ymchwil sy’n ymwneud ag ystyr ac emosiynau. |
arsylwi observation |
Techneg astudio sy’n golygu gwylio pobl yn eu sefyllfaoedd cymdeithasol arferol. |
arbrofion experiments |
Arbrofwr yn trefnu sefyllfa y mae’n gallu ei rheoli ac yna’n arsylwi ar ymddygiad pobl. |
arolwg survey |
Astudiaeth o nifer mawr o bobl. |
arolygon dioddefwyr victim surveys |
Gofynnir i bobl a ydynt wedi dioddef trosedd yn eu herbyn. |
arolygon hunanadrodd self report surveys |
Adroddiadau pobl am eu hymddygiad eu hunain. Defnyddir y rhain yn aml wrth astudio ymddygiad troseddwyr. |
asiantaethau cymdeithasoli agencies of socialisation |
Sefydliadau cymdeithasol sy’n rhan o’r broses o drosglwyddo i bobl normau a gwerthoedd eu cymdeithas. Gan asiantaethau cymdeithasoli yr ydym yn dysgu sut i weithredu yn y ffordd y mae eraill yn ei disgwyl gennym ni. |
asiantau rheolaeth gymdeithasol agents of social control |
Sefydliadau cymdeithasol sy’n cyflwyno i bobl y rheolau y mae’n rhaid i ni i gyd fyw wrthynt. |
astudiaeth achos case study |
Astudio un unigolyn neu ddigwyddiad a dod i gasgliadau o’r astudiaeth honno y gellir eu cymhwyso’n ehangach. |
astudiaethau hydredol longitudinal studies |
Astudiaethau sy’n dilyn carfan o bobl yn ystod nifer o flynyddoedd o’u bywydau. |
bod yn sengl singlehood |
Bod yn ddibriod a heb bartner tymor hir. |
caniatâd gwybodus informed consent |
Pobl sy’n cymryd rhan mewn gwaith ymchwil yn rhoi eu caniatâd i fod yn destun ymchwil gan wybod yn union i beth maen nhw’n cydsynio. |
carfanau pwyso a charfanau budd pressure and interest groups |
Grŵp o bobl sy’n rhannu nodau gwleidyddol ac sy’n ymuno â’i gilydd i hyrwyddo eu safbwynt. |
cenedlaetholdeb nationalism |
Ymdeimlad o deyrngarwch i un ardal ddaearyddol. |
clefyd disease |
Salwch neu afiechyd ble mae’n bosib adnabod y symptomau. |
crefyddau anghristnogol non-Christian religions |
Unrhyw ffydd yn y byd nad yw’n canolbwyntio ar gredu yn Iesu. |
criminaleiddio criminalisation |
Y ffordd y gall gweithredoedd penodol newid i fod yn anghyfreithlon oherwydd newidiadau yn y gyfraith. |
cwlt cult |
Anaml y defnyddir y term yn gymdeithasegol. Mudiad crefyddol newydd yw cwlt. |
cwmnïau trawswladol multi-nationals |
Cwmnïau mawr â buddiannau busnes mewn nifer o wledydd gwahanol. |
cwricwlwm cudd hidden curriculum |
Cysyniad a gysylltir â Pierre Bourdieu ac yn ddiweddarach â ffeministiaeth. Yn ôl y cysyniad hwn mae ysgolion yn dysgu syniadau cymdeithasol megis patriarchaeth heb fod yn ymwybodol o hynny. |
cwricwlwm ffurfiol formal curriculum |
Mae’r cwricwlwm yn cyfeirio at yr hyn sy’n cael ei ddysgu mewn ysgolion. Y cwricwlwm ffurfiol yw’r wybodaeth benodedig y disgwylir i blant ei dysgu. |
cyd-fyw cohabitation |
Dau berson yn byw gyda’i gilydd mewn perthynas rywiol heb fod wedi mynd trwy seremoni briodas. |
cyfalaf cymdeithasol cultural capital |
Yr wybodaeth y mae diwylliant yn ei chyfrif yn werthfawr. |
cyfanswm tywyll troseddau dark figure of crime |
Cyfeirir at hwn hefyd fel cyfanswm cudd troseddau ac mae’n cyfeirio at droseddau na chafodd eu hadrodd wrth yr awdurdodau, sydd heb eu cofnodi, ac nad oes fawr o wybodaeth amdanynt. |
cyfle cyfartal equality of opportunity |
Gallu cyfartal i gael mynediad i fanteision sefydliadau cymdeithasol megis y llywodraeth ac addysg. |
cyfoeth wealth |
Nwyddau a buddsoddiadau y gellir eu prynu neu eu gwerthu. |
cyfraddau rates |
Nifer fesul mil o boblogaeth berthnasol. |
cyfraddau geni birth rates |
Nifer y plant sy’n cael eu geni i bob mil o fenywod sydd mewn oed geni plant. |
cyfraddau marwolaeth mortality and mortality rates |
Nifer y bobl sy’n marw fesul mil o’r boblogaeth. |
cyfrinachedd confidentiality |
Cadw cyfrinachau fel y gall pobl siarad yn rhydd am bethau sy’n peri pryder iddynt, heb ofni cael eu gwawdio neu eu cywilyddio. |
cyfweliad interview |
Dull ymchwil sy’n golygu gofyn cwestiynau i bobl. Gall cyfweliadau fod yn strwythuredig lle paratoir yr holl gwestiynau ymlaen llaw neu’n anstrwythuredig, lle mae’r cyfweliad fel sgwrs. |
cyfyngiadau ar y cyfryngau constraints on the media |
Pethau sy’n rheoli’r hyn y caiff y cyfryngau adrodd amdano a’r hyn na chânt adrodd amdano. |
cyffredinoli generalisation |
I ba raddau y gellir dweud bod canfyddiadau astudiaeth benodol yn berthnasol i gymdeithas ehangach. |
cymdeithas society |
Nid oes unfrydedd barn ar y diffiniad o gymdeithas, ond fel arfer mae’r gair yn cyfeirio at grwpiau o bobl sy’n byw ac yn gweithio gyda’i gilydd neu sy’n rhannu syniadau a gwerthoedd. |
cymdeithasoli socialisation |
Y broses o ddysgu ymddwyn mewn ffordd sy’n briodol i’ch diwylliant chi. |
cymdeithasoli ffurfiol formal socialisation |
Mae rhai dulliau cymdeithasoli yn fwriadol ac yn rhan o strwythur cymdeithas, trwy sefydliadau megis ysgolion. |
cymuned community |
Math o drefniant cymdeithasol sy’n rhoi i bobl ymdeimlad o berthyn mewn rhyw ffordd i grŵp mwy, naill ai’n ddaearyddol neu fel hunaniaeth. |
cynhwysiant cymdeithasol social inclusion |
Bod yn aelod llawn o gymdeithas. |
cynrychiolaeth yn y cyfryngau representation in the media |
Y ffordd y mae pobl o gategorïau cymdeithasol penodol yn cael eu cynrychioli ar ffurf stereoteipaidd yn y cyfryngau. |
cynrychioldeb representativeness |
I ba raddau y gellir dweud bod grŵp bach yn adlewyrchu nodweddion cymdeithasol grŵp mwy y tynnir ef ohono. |
cynulleidfa audience |
Y bobl sy’n prynu neu’n defnyddio cynnyrch y cyfryngau. |
cyrhaeddiad gwahaniaethol differential attainment |
Y gwahaniaethau rhwng cyflawniadau addysgol grwpiau addysgol penodol. |
dadrithiad disenchantment |
Teimlo’n anghysurus neu’n sinigaidd am rywbeth. |
damcaniaeth cydgyfeiriant convergence theory |
Mae hyn yn awgrymu bod gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol yn dod yn fwy tebyg i’w gilydd o ran normau, gwerthoedd a diwylliant. |
damcaniaeth defnydd a boddhad uses and gratifications theory |
Y syniad bod pobl yn dewis nwyddau cyfryngau i gyflawni rhai o’u hanghenion personol. |
damcaniaeth effeithiau diwylliannol cultural effects theory |
Damcaniaeth sy’n awgrymu bod y cyfryngau’n dylanwadu arnom trwy ailadrodd a bwydo syniadau a delweddau i ni’n gyson. Cysylltir y ddamcaniaeth â Greg Philo o Uned Cyfryngau Glasgow. |
damcaniaeth Farcsaidd Marxist theory |
Safbwynt ar gymdeithas sy’n awgrymu bod dosbarthiadau cymdeithasol yn gwrthdaro â’i gilydd. Mae’r bobl sy’n berchen ar y peirianwaith gweithgynhyrchu yn ecsploetio’r bobl sy’n gweithio iddynt am gyflog. |
damcaniaeth moderneiddio modernisation theory |
Damcaniaeth sy’n awgrymu mai gwledydd cyfoethocach y gorllewin sy’n cynnal y gwelliant yn amodau byw a sefyllfaoedd gwleidyddol gwledydd tanddatblygedig. |
damcaniaeth neo-foderniaeth neo-modernisation theory |
Cyfuniad o atebion traddodiadol a modernaidd i’r cwestiwn sut y gall gwledydd ddatblygu’n economaidd. |
damcaniaeth yr elit elite theory |
Y gred mai grŵp bach o bobl hynod gyfoethog a grymus sy’n rheoli cymdeithas. |
damcaniaethau gwrthdaro conflict theories |
Damcaniaethau sy’n awgrymu bod cymdeithas yn cynnwys grwpiau o bobl sy’n cystadlu am adnoddau a grym. Yn gysylltiedig fel arfer â Marcsiaeth a ffeministiaeth. |
damcaniaethau gwrthwynebiad resistance theories |
Damcaniaethau am bobl yn ymwrthod â syniadau neu ymddygiadau mwyfafrifol ac yn gweithredu mewn ffordd sy’n groes i’r meddylfryd cyffredin. |
dangosyddion datblygiad indicators of development |
Data sy’n caniatáu i ymchwilwyr gymharu cyfraddau lles, iechyd ac addysg rhwng cenhedloedd. Sylwer y gall y dangosyddion hyn amrywio rhwng gwledydd. |
data personol personal data |
Gwybodaeth am unigolion megis dyddiaduron, memorabilia. |
datblygiad development |
Lefel diwydiannu, iechyd, lles ac addysg cenedl. |
datganoli devolution |
Y gwrthwyneb i ganoli grym. Mae hawliau a chyfrifoldebau llywodraethau wedi cael eu datganoli (eu rhoi’n ôl) i ranbarthau yn y DU. |
deongliadaeth interpretivism |
Arddull ymchwil cymdeithasol sy’n rhoi’r pwyslais ar ddeall sut mae pobl yn gweithredu mewn perthynas ag eraill o’u cwmpas. |
dethol cymdeithasol social selection |
Ffordd o sgrinio pobl fel mai dim ond rhai pobl benodol sy’n cael cyfleoedd a bod eraill yn cael eu gwrthod. |
dibynadwyedd reliability |
I ba raddau y gellir ymddiried bod astudiaeth yn ddibynadwy. Os yw astudiaeth ddibynadwy yn cael ei hailadrodd, yna bydd y canlyniadau yn debyg ar y cyfan. |
dibyniaeth dependency |
Cyflwr pan fyddwch yn dibynnu ar rywun arall am eich anghenion. Mewn cymdeithaseg defnyddir y term diwylliant dibyniaeth i gyfeirio at bobl sy’n dibynnu ar fudd-daliadau yn lle cael gwaith am dâl. |
diffygion cymdeithasol cultural deficits |
Mae rhai pobl yn cael profiad o ddiwylliant sy’n ddiffygiol o ran y sgiliau cymdeithasol y mae eu hangen i lwyddo. |
dilysrwydd validity |
I ba raddau y mae astudiaeth yn eirwir ac yn adlewyrchu realiti bywyd pob dydd. |
diwydiannu industrialisation |
Y broses lle mae diwylliant neu ranbarth yn mynd yn fwy dibynnol yn economaidd ar weithgynhyrchu nag ar ffermio. |
diwylliannau ieuenctid youth cultures |
Pobl ifanc yn eu mynegi eu hunain mewn ffordd sy’n wahanol i draddodiadau diwylliant prif ffrwd. |
diwylliannau prif ffrwd mainstream cultures |
Syniadau a ffyrdd o fyw y mwyafrif o bobl mewn diwylliant. |
diwylliant culture |
Ffordd o fyw, gwybodaeth, credoau a syniadau grŵp o bobl. |
dosbarth cymdeithasol social class |
Haen mewn cymdeithas sy’n seiliedig ar addysg a chyfoeth. |
dulliau eilaidd secondary methods |
Data cymdeithasegol sy’n cael ei gasglu gan bobl ac eithrio’r tîm ymchwil. |
dulliau ymchwil sylfaenol primary methods |
Dulliau ymchwil a gynhelir gan y cymdeithasegydd ei hun. |
eglwys church |
Adeilad lle mae pobl yn addoli. Mewn cyd-destun cymdeithasegol, mae eglwys yn cyfeirio at sefydliad o bobl sy’n rhannu system credoau neilltuol. |
eithrio exclusion |
Peidio â chael mynediad at rywbeth. Gall hyn ddigwydd yn yr ysgol, lle mae plant yn cael eu heithrio neu eu gwahardd fel cosb. Yn bwysicach, mae tlodi’n cael ei gyfrif yn fath o eithrio ble na all pobl gymryd rhan yn llawn mewn bywyd normal oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio hynny. |
eithrio cymdeithasol social exclusion |
Methu â chymryd rhan mewn cymdeithas oherwydd tlodi. |
enwad denomination |
Carfan grefyddol fawr a threfnus gyda llawer o aelodau. Nid yw’n gysylltiedig â’r wladwriaeth a gall fod yn perthyn i grefydd neu eglwys arall. |
erledigaeth victimisation |
I ba raddau y mae pobl yn dioddef gweithredoedd troseddol. |
ethnigrwydd ethnicity |
Eich ymdeimlad chi o’r diwylliant neu’r genedl yr ydych yn perthyn iddo/iddi. |
ethnograffeg ethnography |
Astudio pobl gyffredin. Bathwyd y term gan Garfinkel ac mae astudiaeth ethnograffig yn awgrymu fel arfer bod cyfnod arsylwi wedi bod. |
ffederaliaeth federalism |
Grŵp o wladwriaethau yn ymuno â’i gilydd i ffurfio un llywodraeth fwy sydd â rhywfaint o rym drostynt i gyd. |
ffeministiaeth feminism |
Y gred bod merched yn ddarostyngedig ar hyn o bryd i awdurdod dynion neu batriarchaeth mewn cymdeithas, a’r awydd am gydraddoldeb cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd rhwng dynion a merched. |
ffwndamentaliaeth fundamentalism |
Yr awydd i ddychwelyd i ffurf ‘bur’ ar gredo grefyddol; fe’i cysylltir yn aml â cheidwadaeth ac awydd i ddychwelyd i werthoedd y gorffennol. |
ffwythiannaeth functionalism |
Ffurf ar gymdeithaseg lle mae sefydliadau cymdeithasol yn cael eu hastudio i weld pa mor ddefnyddiol ydynt i gymdeithas. |
globaleiddio globalisation |
Y farn bod y byd yn mynd yn llai, yn yr ystyr bod cysylltiadau rhwng gwledydd o ran economeg a thechnoleg cyfathrebu yn gwella trwy’r amser. |
goddrychedd subjectivity |
Ffordd emosiynol o edrych ar bethau. |
gosod agenda agenda setting |
Y ffordd y gall y cyfryngau benderfynu ar ran pobl pa bethau y dylent fod yn pryderu amdanynt trwy roi mwy o sylw i rai storïau nag eraill. |
grym power |
Y gallu i reoli eraill. |
gwahaniaethu differentiation |
Gwahaniaethau cymdeithasol mewn statws a grym rhwng gwahanol grwpiau cymdeithasol. |
gweithredolaeth operationalisation |
Diffinio cysyniad haniaethol mewn ffordd y gellir ei astudio. |
gweithredu cymdeithasol social action |
Ymddygiad sy’n digwydd mewn cysylltiad â phobl eraill; mae ganddo bwrpas y byddai eraill yn ei gydnabod. Fe’i cysylltir â chymdeithaseg Max Weber. |
gwerthoedd values |
Yr egwyddorion neu’r credoau sy’n llywio pobl ac yn effeithio ar eu gweithredoedd. |
gwerthoedd newyddion news values |
Mae rhai storïau’n fwy tebygol o gael eu hadrodd yn y cyfryngau nag eraill yn ôl meini prawf sy’n cael eu galw’n werthoedd newyddion. Mae’r rhain yn cynnwys delweddau gweledol da ar gyfer y teledu. |
gwladwriaeth genedlaethol nation state |
Ardal sy’n cael ei rheoli a’i llywodraethu gan un llywodraeth. |
gwrthrychedd objectivity |
Yr ymgais i fod yn wyddonol ac yn ddiduedd wrth astudio. |
holiadur questionnaire |
Rhestr o gwestiynau a luniwyd i’w hateb gan ymatebwyr er mwyn dadansoddi data ystadegol yn codi o’r atebion. |
hunaniaeth identity |
Ymdeimlad o bwy ydych chi. |
iatrogenesis iatrogenesis |
Unrhyw salwch neu anabledd a achosir gan weithredoedd meddyg. |
ideoleg ideology |
System credoau yw hon. |
ideolegau gwleidyddol political ideologies |
System credoau yw ideoleg, felly mae ideoleg wleidyddol yn cyfeirio at system credoau yn ymwneud â’r ffordd y dylai cymdeithas gael ei threfnu er budd ei haelodau. |
iechyd health |
Cyflwr o les corfforol a meddyliol. |
incwm income |
Yr arian sy’n dod i’r aelwyd o enillion, llog neu fudd-daliadau. |
isddiwylliant subculture |
Grŵp bach o bobl â normau a gwerthoedd gwahanol i brif ffrwd cymdeithas. |
isddiwylliant gwrth-ysgol anti-school subculture |
Mae rhai disgyblion mewn ysgolion yn creu grwpiau cyfeillgarwch sy’n ymwrthod ag amcanion a gwerthoedd yr ysgol gyfan. |
llafur domestig domestic labour |
Gwaith heb dâl a gyflawnir yn y cartref yw llafur domestig; gwaith tŷ. |
llên-ladrad plagiarism |
Copïo gwaith pobl eraill, neu ddefnyddio eu syniadau heb eu caniatâd. Mae’n gwbl anghyfreithlon. |
lleoliad locality |
Rhanbarth daearyddol. |
lluniad cymdeithasol social construction |
Barn gytûn gyffredinol ar ffenomen gymdeithasol. |
lluosogrwydd methodolegol methodological plurality |
Defnyddio mwy nag un dull methodolegol mewn un astudiaeth i sicrhau dibynadwyedd a dilysrwydd. |
meddygoli medicalisation |
Proses gymdeithasol lle daw pobl i ystyried digwyddiadau naturiol fel geni plentyn yn ddigwyddiadau lle mae angen mewnbwn a rheolaeth staff meddygol. |
meintiol quantitative |
Yn ymwneud â data rhifyddol ac ystadegol. |
meritocratiaeth meritocracy |
Mae’r bobl orau’n codi i frig y strwythur cymdeithasol oherwydd mai nhw yw’r bobl fwyaf dawnus a’r rhai mwyaf cymwys i lywodraethu arnom. |
model biofeddygol o salwch bio-medical model of illness |
Mae hyn yn awgrymu mai sail gorfforol sydd i afiechyd, gan gynnwys salwch meddwl. |
model chwistrell hypodermig hypodermic syringe model |
Y gred bod y cyfryngau torfol yn gweithredu fel cyffur fel na fydd pobl yn teimlo poen bodolaeth. |
model llif dau gam two-step flow model |
Barn ar effaith y cyfryngau ar bobl, sy’n awgrymu bod yna bobl rymus sy’n llywio barn mewn cymunedau a’u bod yn gallu dylanwadu ar bobl eraill heb i’r bobl eraill fod yn llwyr ymwybodol o hynny. |
moderniaeth modernism |
Mudiad cymdeithasol ac artistig ar ddechrau’r 20g a geisiai feirniadu traddodiad ac annog pobl i wneud pethau mewn ffordd newydd a ‘gwell’. |
moeseg ethics |
Astudio’r hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir. Mewn cymdeithaseg mae’n hollbwysig nad yw astudiaethau’n niweidio’r bobl sy’n cymryd rhan ynddynt. Lluniwyd cod moesegol gan Gymdeithas Gymdeithasegol Prydain, a dylid ei ddilyn mewn unrhyw ymchwil cymdeithasol. |
morbidrwydd a chyfradd morbidrwydd morbidity and morbidity rates |
Salwch yw morbidrwydd, a chyfraddau morbidrwydd yw nifer y bobl sy’n wynebu salwch fesul mil o’r boblogaeth. |
mudiad amgylcheddol environmental movement |
Pobl sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gyflwr y blaned. Maent ar ffurf grwpiau llac yn ogystal â charfanau pwyso â mwy o strwythur iddynt. |
mudiadau crefyddol newydd new religious movements |
Grwpiau bach a phreifat o bobl sy’n dilyn crefydd newydd neu fersiwn newydd o grefydd sefydledig. |
mudiadau cymdeithasol newydd new social movements |
Yn lle ymuno â phleidiau gwleidyddol trefnus traddodiadol, mae llawer o bobl yn cael eu denu at wleidyddiaeth un pwnc, megis pryder am yr amgylchedd, gwrthwynebu masnach arfau neu wrth-gyfalafiaeth. |
mudiadau’r Oes Newydd New Age movements |
Mae pobl sy’n dilyn ysbrydolrwydd amgen yn ffurfio grwpiau lled-drefnedig fel Wicca neu Dderwyddon. |
mynediad access |
Llwybr i mewn i rywbeth. Mewn cyd-destun cymdeithasegol, mae hyn yn gysylltiedig â’r syniad o anghydraddoldeb oherwydd mae gan bobl o wahanol grwpiau cymdeithasol gyfleoedd gwahanol o lwyddo i dreiddio i sefydliadau cymdeithasol. |
mynydd iâ salwch illness iceberg |
Cyfanswm y salwch corfforol a meddyliol mewn cymuned na chafodd eu hadrodd wrth yr awdurdodau ac sy’n anhysbys. |
neo-lwythau neo-tribes |
Safbwynt ôl-fodernaidd ar ddiwylliant ieuenctid yw hwn sy’n awgrymu bod mynegiannau diwylliannol pobl ifanc yn unigolyddol, yn dymor byr ac yn dibynnu ar eu dull o fyw. |
newid cymdeithasol social change |
Newid yn economeg, normau neu werthoedd cymdeithas. |
normau norms |
Y ffordd normal a disgwyliedig o ymddwyn mewn diwylliant. |
Oes Newydd New Age |
Wrth i gredoau traddodiadol fynd yn llai pwysig ym mywydau pobl, maent wedi troi at ffurfiau eraill ar fynegiant ysbrydol, megis canhwyllau, cerddoriaeth morfilod, perlysiau, crisialau a sêr-ddewiniaeth. Y credoau hyn a gyfrifir fel rhai’r Oes Newydd. |
ofn trosedd fear of crime |
Pobl yn ofni dioddef trosedd, weithiau yn fwy nag sydd raid o ystyried pa mor annhebygol ydynt o ddioddef trosedd mewn gwirionedd. |
ôl-foderniaeth postmodernism |
Nid oes dim gwirioneddau cymdeithasol na gwleidyddol felly mae gan bobl ddewis ynghylch sut maent yn gweithredu a’r hyn y maent yn ei gredu. |
panig moesol moral panics |
Gorymateb y cyhoedd i ddigwyddiad diweddar am fod adroddiadau’r cyfryngau wedi gorliwio’r sefyllfa. |
penderfynu decision making |
Yr hawl i benderfynu sut y dylai pobl eraill weithredu. |
perthnasoedd cymdeithasol social relationships |
Eich safle neu’ch gweithredoedd yn nhermau pobl eraill. |
plwraliaeth pluralism |
Mae ein diwylliant yn cynnwys amrywiaeth barn a safbwyntiau ar gymdeithas. |
positifiaeth positivism |
Cymdeithaseg wyddonol, yn seiliedig ar y farn na ddylid astudio ond ymddygiadau y gellir arsylwi arnynt a’u mesur. |
priodas marriage |
Contract cyfreithiol rhwng dau berson o rywiau gwahanol sy’n cynnig hawliau a rhwymedigaethau o dan y gyfraith. |
proffwydoliaeth hunan-gyflawni self fulfilling prophecy |
Yng nghyd-destun addysg, rhagfynegir rhywbeth ac yna, oherwydd iddo gael ei ragfynegi, mae’n dod yn wir neu mae’n cael ei orfodi i ddod yn wir. |
radicaliaeth radicalism |
Eithafiaeth mewn rhyw ffurf. Fe’i cysylltir yn aml â ffeministiaeth neu Farcsiaeth. |
realaeth realism |
Llunio cymdeithaseg mewn ffordd sy’n cynrychioli’r byd go iawn ac yn ymwrthod ag esboniadau damcaniaethol. |
rôl salwch sick role |
Y ffordd briodol o ymddwyn pan fydd pobl eraill wedi eich diffinio fel person sâl. |
rolau roles |
Term a ddefnyddiwyd gan Erving Goffman. Ei awgrym ef oedd bod pobl yn ymddwyn mewn ffordd neilltuol mewn sefyllfaoedd penodol. |
rolau cymdeithasol social roles |
Ffyrdd disgwyliedig o ymddwyn mewn sefyllfa gymdeithasol benodol. |
rhanbarthiaeth regionalism |
Ymdeimlad o hunaniaeth sy’n seiliedig ar ardal ddaearyddol. Mewn termau gwleidyddol, mae’n golygu awydd i gael eich rheoli gan bobl sy’n rhannu’r un hunaniaeth. |
rheolaeth control |
Y gallu i ddefnyddio p i reoli pobl eraill. |
rheolaeth gymdeithasol social control |
Y ffordd y mae rheolau cymdeithasol y diwylliannau y mae pobl yn byw ynddynt yn effeithio ar eu hymddygiad. |
rhesymoli rationalisation |
Rhoi eglurhad rhesymegol dros syniad. |
rhesymoli rationalisation |
Aildrefnu sefydliad i’w wneud yn fwy effeithlon. |
rhywedd gender |
Y rolau cymdeithasol y mae pobl yn eu mabwysiadu yn ôl eu rhyw biolegol. |
salwch illness |
Diffyg ymdeimlad o iechyd a lles. |
samplo sampling |
Defnyddio grŵp llai o fewn poblogaeth i gynrychioli’r grŵp cyfan. |
sancsiynau sanctions |
Systemau cosbi a gwobrwyo. |
seciwlareiddio secularisation |
Proses lle mae crefydd drefnedig draddodiadol yn colli arwyddocâd yn niwylliant y Gorllewin. |
sect sect |
Grŵp crefyddol bach sydd wedi torri i ffwrdd o grŵp mwy; mae’n gyfrinachol yn aml ac yn gaeedig i bobl o’r tu allan. |
sensitifrwydd sensitivity |
Bod yn ymwybodol o deimladau a hawliau pobl eraill. |
sensoriaeth censorship |
Mewn llawer o wledydd ni chaniateir i rai pynciau gael eu dangos neu eu trafod yn y cyfryngau, yn fwyaf cyffredin, rhyw neu drais. Mae sensoriaeth yn digwydd pan fydd rhai pynciau’n cael eu gwahardd yn swyddogol. |
statws status |
Safle person neu grŵp, neu’r parch atynt mewn cymdeithas. |
stereoteipiau stereotypes |
Mae pobl yn datblygu delwedd gyffredinol a simplistaidd o aelodau grwpiau cymdeithasol eraill ac yna’n ymddwyn fel pe bai’r delweddau hyn yn wir. |
stigma stigma |
Rhywbeth sy’n dynodi bod person yn wahanol i eraill mewn cymdeithas. |
strwythur cymdeithasol social structure |
Sefydliadau yw’r rhain sydd gyda’i gilydd yn creu cymdeithas. Mae cymdeithas wedi ei threfnu o amgylch y systemau hyn. Er enghraifft, mae addysg a’r teulu’n cael eu gweld yn aml fel strwythurau cymdeithasol. |
swyddogaethau functions |
Pwrpas rhywbeth. |
symudoledd cymdeithasol social mobility |
Y gallu i symud i fyny ac i lawr y system dosbarthiadau cymdeithasol. |
tarfu ar breifatrwydd invasion of privacy |
Unrhyw ymchwil sy’n datgelu manylion personol heb ystyried hawl sylfaenol unigolyn i beidio â datgelu manylion personol. |
teulu family |
Grŵp o bobl sy’n gysylltiedig â’i gilydd trwy ymdeimlad o berthyn trwy waed neu briodas. |
tlodi poverty |
Yr ymdeimlad gan rywun eu bod yn methu â fforddio pethau angenrheidiol. |
tlodi cymharol relative poverty |
Bod heb y pethau y mae eraill yn eich diwylliant yn disgwyl gallu eu fforddio. |
tlodi llwyr absolute poverty |
Bod heb angenrheidiau sylfaenol bywyd dynol. |
treialu piloting |
Astudiaeth ar raddfa fach er mwyn rhoi prawf ar y dulliau y bwriedir eu defnyddio mewn astudiaeth ar raddfa fawr. |
triongli triangulation |
Defnyddio mwy nag un dull ymchwil cymdeithasol er mwyn gwirio’r naill yn erbyn y llall. |
trosedd byd-eang global crime |
Trosedd sy’n digwydd ar draws nifer o wledydd, er enghraifft smyglo cyffuriau. |
trosedd coler wen white-collar crime |
Trosedd a gyflawnir gan bobl wyn broffesiynol, ddosbarth canol. Bathwyd y term gan Sutherland. |
trosedd corfforaethol corporate crime |
Gweithredoedd troseddol a gyflawnir gan gwmnïau sy’n anwybyddu cyfreithiau megis y rhai hynny sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch neu sy’n cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon eraill. |
trosglwyddo diwylliannol cultural transmission |
Y ffordd y mae diwylliant yn cael ei drosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall. |
tueddiad bias |
Rhoi gogwydd ar rywbeth fel ei fod yn adlewyrchu eich rhagfarnau a’ch safbwyntiau chi ac nad yw’n adlewyrchiad cywir o’r byd. |
tueddiadau trends |
Patrymau dros gyfnod o amser. |
twyll deceit |
Anonestrwydd. Nid yw’n foesol dweud celwyddau wrth bobl wrth gynnal astudiaeth ymchwil. |
unigolyddiaeth individualism |
Athroniaeth wleidyddol yw hon sy’n hyrwyddo hawliau a lles yr unigolyn. Mae’n gwrthwynebu ymyriad y wladwriaeth i hybu lles cymdeithasol. |
y dde newydd the new right |
Yn gysylltiedig â Margaret Thatcher. Mae aelodau’r dde newydd yn credu bod unigolyddiaeth neu hawliau’r unigolyn yn bwysicach na hawliau cymdeithas. |
ymarferol practical |
Mae’n bosib defnyddio’r dull y mae cymdeithasegydd yn ei ddefnyddio yn effeithiol mewn bywyd go iawn. |
ymatebwr respondent |
Rhywun sy’n ateb cwestiynau gan gymdeithasegydd. |
ymddygiad pleidleisio voting behaviour |
Y ffordd y mae pobl yn dewis pleidleisio. |
ymddygiad risg risk behaviour |
Mae pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gallu eu rhoi mewn risg o salwch neu berygl. |
ysgariad divorce |
Datganiad cyfreithiol o ddiwedd priodas. |
ystadegau statistics |
Data sy’n cael ei gasglu ar ffurf rhifau. |
ystadegau swyddogol official statistics |
Data sy’n cael ei gasglu gan gyrff swyddogol y llywodraeth. |