|
|
![]() |
|
Uwch ben yr Arch mae’r Golau Tragwyddol neu’r Ner Tamid. Mae’r Golau Tragwyddol yn y canol ar dop y llun. Mae ar ffurf drwm gyda choron aur ar ei ben. Dydy’r golau byth yn diffodd. Mae’n symbol fod Duw yn bresennol yn y synagog bob amser. Mae’r 10 Gorchymyn yn y canol ar waelod y llun. Mae’r rhain wedi’u hysgrifennu mewn Hebraeg. Mae dwy golofn a phum gorchymyn ym mhob un. Y 10 gorchymyn yw rheolau pwysicaf yr Iddewon. Maen nhw’n cael eu hysgrifennu uwch ben yr Arch sanctaidd am eu bod mor bwysig. Wyt ti’n gwybod y 10 gorchymyn? |
| Cynnwys |