Yn Islam mae’r merched yn gweddïo ar wahân
i’r dynion. Mae hyn yn digwydd am fod Mwslimiaid eisiau canolbwyntio
ar Allah wrth weddïo heb fod presenoldeb y rhyw arall yn tarfu arnyn
nhw. Mewn rhai mosgiau, mae merched yn gweddïo mewn ystafell
ar wahân i’r dynion. Mae’r llun uchod yn dangos y drws rhwng
ystafelloedd gweddïo’r dynion a’r merched yn y mosg yng Nghaerdydd.
Fe weli ystafell y menywod yn y llun isod. Os nad oes ystafell ar
wahân mewn mosg, bydd y menywod yn sefyll y tu ôl i’r dynion
yn y neuadd weddïo. |