9.  Y clociau

Mae chwe wyneb cloc yn y mosg.  Dydy’r rhain ddim yn glociau go iawn sy’n gweithio.  Mae’r pum cloc cyntaf yn dangos yr amser gweddïo pob dydd.  Mae’r chweched cloc yn dangos amser y gwasanaeth ar brynhawn Gwener.

Arabeg yw prif iaith Islam.  Mae Arabeg yn cael ei hysgrifennu o’r dde i’r chwith.  Mae hyn yn wahanol i Gymraeg a Saesneg sy’n cael eu darllen o’r chwith i’r dde.  Dyma’r drefn:

2
1
4
3
6
5
 
1. Gweddi cyn y wawr
2. Gweddi ychydig ar ôl canol dydd
3. Gweddi ganol prynhawn
4. Gweddi wedi machlud haul
5. Gweddi wedi iddi nosi
6. Amser y gwasanaeth ar brynhawn Gwener – Juma (dydy amser y gwasanaeth yr wythnos hon heb ei ddangos ar y cloc eto).
Tynnwyd llun y clociau hyn yn y mosg ynghanol mis Rhagfyr.  Bydd yr amseroedd yn newid yn ystod y flwyddyn, wrth i amser toriad gwawr a machlud haul ac ati newid drwy’r flwyddyn. 
Cynnwys
Tudalen nesaf