Mae Mwslimiaid yn ymolchi cyn gweddïo. ‘Wudu’
yw enw’r broses yma. Dydyn nhw ddim yn ymolchi am eu bod nhw’n frwnt.
Maen nhw’n ymolchi am eu bod ar fin gwneud rhywbeth arbennig iawn sef gweddïo.
Maen nhw’n glanhau’r corff fel arwydd eu bod nhw hefyd yn glanhau’r meddwl
ac yn cael gwared ar feddyliau pob dydd er mwyn canolbwyntio ar weddïo
ar Allah. Mae mannau ymolchi arbennig yn y mosg. Mae’r dynion
a’r merched yn ymolchi ar wahân.
Mae’r llun yn dangos ystafell Wudu y dynion. Mae
dw^r twym ar gael o’r tapiau ar y wal. A weli di’r stolion isel?
|