|
|
![]() |
|
Yn aml, mae tw^r tal a chul y tu allan i’r mosg. Enw’r tw^r yw’r minaret. Mae Mwslimiaid yn gweddïo ar Allah bum gwaith y dydd. Yn y gorffennol, byddai dyn o’r enw y ‘muezzin’ yn dringo i fyny i ben y minaret. Byddai’n galw mewn llais uchel i ddweud wrth y Mwslimiaid am weddïo. Erbyn heddiw, mae’r mosg yn defnyddio tâp o’r alwad i weddïo ac mae systemau sain yn cael eu gosod yn y minaret. |
| Cynnwys |