19.  Canolfan Gymunedol

Mae canolfan gymunedol wrth ymyl llawer o fosgiau.  Mae’r ganolfan yn adeilad sy’n cael ei ddefnyddio gan y gymuned Fwslimaidd leol.  Mae’n lle i gynnal partïon priodas neu barti i ddathlu gwyliau crefyddol.  Wedi iddi nosi bob nos yn ystod Ramadan mae Mwslimiaid yn rhannu bwyd yno.  Mae plant Mwslimiadd yn cyfarfod yn y ganolfan ar ôl ysgol i weld eu ffrindiau, i sgwrsio a chwarae gemau.  Yn y Ganolfan Islamaidd Yemeni yng Nghaerdydd mae ystafell chwaraeon lle mae bwrdd pw^l a phethau tebyg.
Mae gan y mosg fws mini hefyd.  Mae’r gymuned Mwslimaidd yn ei ddefnyddio er mwyn mynd â’r plant ar wibdaith ac ati. 

Fel y gweli, mae mwy i’r mosg na lle i addoli Allah ac astudio.  Mae’n ganolbwynt i’r gymuned Fwslimaidd.  Mae’n lle i Fwslimiaid ddod at ei gilydd a mwynhau eu hunain.

Cynnwys