18.  Addurniadau yn y mosg

Yn aml iawn mae’r mosg wedi’i addurno’n hardd.  Ond, fyddwch chi byth yn gweld lluniau o bobl nac anifeiliaid yn y mosg.  Dywedodd Allah wrth y Mwslimiaid am beidio â gwneud hyn rhag ofn iddyn nhw addoli’r bobl neu’r anifeiliaid yn y lluniau.  Mae tri math o addurniadau yn y mosg fel arfer:
1  Adnodau o’r Qur’an mewn Arabeg

2  Lluniau o fosgiau enwog

3  Patrymau geometrig
 

Cynnwys
Tudalen nesaf