|
|
![]() |
|
Mae posibl astudio yn y mosg yn ogystal â gweddïo. Mae Mwslimiaid yn dod i’r mosg i ddysgu mwy am eu crefydd ac am Allah. Yn aml, bydd ystafell ar gael yn y mosg ar gyfer dosbarthiadau a darlithoedd i drafod y Qur’an ac Islam. Y Madrassa yw ysgol y mosg – rhywbeth tebyg i Ysgol Sul y Cristion. Mae plant rhwng 4 a 14 oed yn dod i’r madrassa i ddysgu darllen Arabeg a’r Qur’an. Mae’r gwersi hyn yn aml yn digwydd ar ôl ysgol neu ar y penwythnos. Yn y llun, mae Ahmed yn astudio’r Qur’an mewn ystafell arbennig yn y mosg yng Nghaerdydd. Mae e wedi dysgu chwarter o’r Qur’an ar ei gof. |
| Cynnwys |