16.  Y Qur’an

Y Qur’an yw llyfr sanctaidd Islam.  Mae’n  cynnwys y geiriau a ddywedodd Allah wrth y proffwyd Muhammad.  Arabeg yw iaith y Qur’an.  Mae’r Qur’an yn dysgu Mwslimiaid sut mae byw.  Er enghraifft, mae’n cynnwys rheolau ymddygiad.  Cyn darllen y Qur’an, mae Mwslimiaid yn ymolchi.  Maen nhw’n aml yn eistedd ar y llawr i ddarllen y Qur’an.  Maen nhw’n rhoi’r Qur’an ar stand, yn hytrach na’i roi ar y llawr.  Maen nhw’n dangos parch at y Qur’an ac at eiriau Allah.  Mae Mwslimiaid yn aml yn dod i’r mosg i eistedd yn dawel a darllen y Qur’an.  Mae’r llun yn dangos copïau o’r Qur’an ar y silff lyfrau gyda’r standiau ar y silff waelod.
Cynnwys
Tudalen nesaf