14.  Mat Gweddïo

‘Does dim rhaid i Fwslimiaid weddïo yn y mosg, er bod hynny’n well ym marn y rhan fwyaf.  Maen nhw’n cael gweddïo yn unrhyw le.  Pan mae’n amser gweddïo, maen nhw’n rhoi’r gorau i’w gwaith, yn rhoi mat gweddïo ar y llawr ac yn dechrau gweddïo.  Mae’r mat gweddïo yn lle glân.  Gall y mat fod yn unrhyw liw.  Fel arfer mae patrymau geometrig arnyn nhw a llun o fosg.  Weithiau mae cwmpawd arnyn nhw i helpu’r addolwr i chwilio am gyfeiriad Makkah.  Mae’r mat gweddïo yn y llun yn cael ei ddefnyddio gan yr imam yn y mosg yng Nghaerdydd wrth iddo sefyll o flaen y Mihrab yn arwain y gweddïo.
Cynnwys
Tudalen nesaf