|
|
![]() |
|
Yn ogystal â gwneud y Salah bum gwaith y dydd, gall Mwslimiaid weddïo ar Dduw ar unrhyw adeg. Weithiau maen nhw’n defnyddio gleiniau i’w helpu. Mae 99 glain am fod Mwslimiaid yn credu bod gan Allah 99 o enwau, fel ‘Duw Trugarog’, ‘y Tosturiol Un’. Maen nhw’n troi’r gleiniau yn eu llaw ac yn ailadrodd 99 enw Allah. Maen nhw’n meddwl yn ofalus am bob enw. Mae hyn yn eu helpu i ganolbwyntio ar Allah a meddwl yn ddwys am sut un yw e. A weli di Ahmed yn defnyddio’r gleiniau gweddïo yn y llun? |
| Cynnwys |