11.  Salah - y drefn weddïo

Mae disgwyl bod Mwslimiaid yn gweddïo mewn ffordd arbennig bum gwaith y diwrnod.  Enw’r drefn weddïo hon yw’r Salah.  Mae’r Salah yn cynnwys cyfres o weddïau a gweithredoedd.  Mae Mwslimiaid dros y byd i gyd yn gweddïo yr un pryd ac yn yr un ffordd.  Mae’n helpu nhw i deimlo’n rhan o’r gymuned Fwslimaidd.

Mae’n rhaid i Fwslimiaid wneud y Salah mewn ffordd arbennig.  Dyma Ahmed.  Clicia ar lun Ahmed i'w weld yn gweddïo.  Os nad wyt am weld hyn, clicia ar "Tudalen nesaf".

Cynnwys
Tudalen nesaf