9.  Ragis (cerddorion) ac offerynnau cerdd

Wrth ymyl y llwyfan a’r Guru Granth Sahib mae lle i’r cerddorion neu’r ragis a’r offerynnau cerdd.  Y ddau brif offeryn a ddefnyddir yn y gurdwara yw’r harmoniwm a’r tabla (drymiau) (edrych ar y lluniau isod).  Mae cerddoriaeth a chanu yn rhan bwysig o addoliad y Sikhiaid.  Mae’r Guru Granth Sahib yn llawn o emynau ac mae rhai yn cael eu canu yn ystod yr addoliad.

 
Cynnwys