16.  Y Ganolfan Gymunedol

 Mae tri prif bwrpas i’r gurdwara.
· Mae’n lle i addoli Duw 

· Mae’n lle i astudio.  Mae’r Sikhiaid yn dod i’r gurdwara i ddysgu mwy am y Guru Granth Sahib a’u crefydd.  Mae plant yn dysgu sut mae darllen a deall rhannau o’r Guru Granth Sahib.  Weithiau mae plant yn dysgu sut mae chwarae’r offerynnau cerdd yn y gurdwara – yr harmoniwm a’r tabla. 

· Mae’r Sikhiaid yn dod yma i gymdeithasu.  Mae plant yn dod yma ar ôl ysgol ac ar y penwythnos i chwarae.  Mae oedolion yn medru cwrdd â’u ffrindiau a chael sgwrs.  Maen nhw’n cwrdd yma i ddathlu eu gwyliau crefyddol.  Maen nhw’n dod yma hefyd i ofyn am gyngor os bydd rhywbeth yn eu poeni.


 
Cynnwys