|
|
![]() |
|
Mae pobl sy’n dilyn crefydd Sikhiaeth yn mynd i’r gurdwara i addoli. Mae’r Sikhiaid yn mynd i’r gurdwara i weddïo ar Dduw. Ystyr ‘gurdwara’ yw ‘ty^’r Guru’. Cawn weld beth mae hyn yn ei olygu yn nes ymlaen. Mae’r llun uchod yn dangos y Bhatra gurdwara yng Nghaerdydd.
Wrth ymyl yr adeilad mae polyn uchel â baner oren yn chwifio ohono
(gweler y lluniau isod). Enw’r faner yw’r Nishan Sahib. Mae’n
symbol pwysig mewn Sikhiaeth. Mae Nishan Sahib yn chwifio y tu allan
i bob gurdwara. Mae’n dangos i bawb mai gurdwara yw’r adeilad.
|
![]() |
![]() |
| Cynnwys |