Logo Straeon Gwerin Môn
Haenau
Gweithgareddau

Y Cynnwys

Merch Ifan Gruffydd   HAEN 1

Dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, mewn bwthyn bychan o'r enw Hafod Isaf ym Mhlwyf Llandyfrydog, roedd gwr o'r enw Ifan Gruffydd yn byw.   Roedd ei wraig wedi marw ond roedd ganddo un ferch o'r enw Gwen.  Roedd Gwen yn eneth brydferth iawn.

Dydd Nadolig oedd hi ac roedd Gwen wedi trefnu i gyfarfod â'i ffrindiau mewn ffermdy heb fod ymhell i gynnal Noson Lawen.  Ar ôl te y noson honno, a hithau'n barod i gychwyn, gofynnodd ei thad iddi roi'r fuwch yn y beudy.   Erbyn hyn roedd yn dechrau nosi.  Chwiliodd Gwen ym mhobman am y fuwch ond nid oedd sôn amdani yn unman.  Aeth yn ei hôl i'r ty i ddweud wrth ei thad.  Aeth yntau allan gyda'i ferch i chwilio am y fuwch.  Bu'r ddau yn chwilio am amser hir ond heb weld dim.

Toc daethant at gae o'r enw Cae Lleidr Llandyfrydog.   Yno, er mawr syndod i'r ddau, gwelsant Dylwyth Teg yn dawnsio mewn cylch,  pob un mewn gwisg liwgar.   Yna, heb unrhyw reswm yn y byd, camodd Gwen i mewn i'r cylch.   Yn sydyn, diflannodd y ferch a'r Tylwyth Teg gan adael Ifan Gruffydd yn unig ar gae Lleidr Llandyfrydog.

Roedd Ifan Gruffydd wedi ei syfrdanu.  Aeth adref yn llawn dychryn.  Ni wyddai beth i'w wneud.  Aeth y stori fel tân gwyllt drwy Ynys Môn.  Bu chwilio mawr am Gwen ond doedd dim golwg ohoni yn unman.  Daeth llawer o bobl i Hafod Isaf i geisio cysuro Ifan Gruffydd ond roedd yn dal yn drist iawn.    Roedd wedi colli ei unig ferch.

Aeth misoedd heibio, ond nid oedd hanes o Gwen yn unman.  Yna, un diwrnod, cofiodd Ifan Gruffydd yn sydyn am wr arbennig iawn o'r enw John Roberts oedd yn byw mewn bwthyn bychan ar Fynydd Bodafon.  Roedd John Roberts yn wr doeth iawn, yn wir roedd rhai yn meddwl ei fod yn ddewin.  Penderfynodd Ifan Gruffydd fynd ato i ofyn beth i'w wneud.

Gwrandawodd John Roberts yn astud ar stori Ifan Gruffydd.  Meddyliodd yn galed ac ymhen ychydig meddai,

"Os wyt ti am gael Gwen yn ôl, chwilia am y pedwar dyn cryfaf yn y fro.  Chwilia hefyd am raff newydd, gref, a phan ddaw hi yn noson Nadolig dos yn ôl i'r cae lle diflannodd Gwen.  Clyma'r rhaff am dy ganol a phan  weli di Gwen yn dawnsio gyda'r Tylwyth Teg, neidia i'r cylch a thyn hi allan."

Ni fu Ifan Gruffydd yn hir yn cael hyd i bedwar dyn cryf.  Aeth ati wedyn i chwilio am raff gref newydd sbon.  Yr adeg hynny roedd llawer o raffwyr yn bwy yn Llannerchymedd ac   fe wyddent am ei helynt.   Cytunodd pob un i'w helpu ac aethant ati ar unwaith i blethu'r rhaff gryfaf a welodd Ifan Gruffydd erioed.

Pan ddaeth hi'n noson Nadolig fe gychwynnodd Ifan a'r pedwar dyn cryf am gae Lleidr Llandyfrydog a'r rhaff ar eu hysgwyddau.   Cyrhaeddodd y pump yr union le y diflannodd Gwen flwyddyn ynghynt.  Clymodd Ifan Gruffydd y rhaff am ei ganol yn dynn a gafaelodd y pedwar dyn cryf ym mhen arall y rhaff.  Yna disgwyl.......a disgwyl........a disgwyl.

Yna, yn sydyn, gwelodd Ifan Gruffydd y Tylwyth Teg, ac yno yn eu canol yn dawnsio yn hapus roedd Gwen.  Neidiodd i ganol y cylch a gafael ynddi.

"Tynnwch! Tynnwch!"  gwaeddodd ar y pedwar dyn cryf.  Gydag un plwc gref gyda'u breichiau cryfion fe dynnodd y pedwar yn y rhaff a daeth Ifan Gruffydd a Gwen yn rhydd o'r cylch hud.  Yn syth ar ôl tynnu Gwen o'r cylch, diflannodd y Tylwyth Teg.

Bu dathlu mawr ym Mhlwyf Llandyfrydog ac roedd Ifan Gruffydd wrth ei fodd.  Ond yn rhyfedd iawn, doedd Gwen yn cofio dim am y flwyddyn a dreuliodd yng Ngwlad y Tylwyth Teg.