Heb fod ymhell o bentref Llanddona ar Ynys Môn mae traeth o'r enw Traeth Coch. Mae'n draeth poblogaidd iawn, ac yn yr Haf fe fydd ymwelwyr yn tyrru yno i fwynhau'r môr a'r tywod melyn. Flynyddoedd lawer yn ôl daeth criw arall ar ymweliad a Thraeth Coch, ond roedd rhain yn griw pur wahanol a dyma'r stori i chi. Roedd gwr o Landdona yn cerdded ar hyd Traeth Coch un diwrnod pan glywodd lais yn galw, "Helpwch ni, rydym ni wedi colli ein rhwyfau mewn storm ac wedi bod ar y môr ers amser hir. Rydym i gyd yn sychedig iawn." Edrychodd i gyfeiriad y môr ac yno, er mawr syndod iddo, roedd saith cwch yn llawn o bobl od a rhyfedd yr olwg. Yn sydyn, cofiodd y gwr am yr arferiad mewn ambell wlad o roi gwrachod drwg mewn cychod heb rwyfau na hwyliau ac yna eu gyrru allan i'r môr heb fwyd na diod. Mae'n rhaid, meddyliodd y gwr, mai gwrachod yw'r criw yma. "Ewch i nôl rhaff i ni gael glanio!" gwaeddodd un o'r
criw. Cyn gynted ag y cafodd y gwrachod eu traed ar dir sych aethant ati i chwilio am ddiod. Nid oedd pobl Llanddona yn awyddus o gwbl i'r criw rhyfedd yma yfed o'u ffynhonnau hwy ond nid oedd hyn yn broblem o gwbl i'r gwrachod. Trawodd un ohonynt y tywod gyda'i ffon ac ar amrantiad fe ffrydiodd afon o ddwr clir oer o flaen eu llygaid. Yfodd y gwrachod yn awchus. Dychrynodd pobl Llanddona yn fawr o weld hyn. Nid oeddynt wedi gweld eu tebyg erioed o'r blaen. Ni fu'r gwrachod yn hir cyn mynd ati i wneud cytiau bychan iddynt eu hunain ar y comin a mynd o dy i dy i chwilio am fwyd. Roedd ar bawb eu hofn ac ni feiddiai neb eu gwrthod. Pe byddai unrhyw un yn ddigon gwirion i wneud hynny yna fe fyddai'r gwrachod yn eu melltithio. Credai rhai yr adeg hynny y gallai'r gwrachod newid i fod yn ysgyfarnogod a gwnai hyn hi'n anodd i'w dal. Ond roedd un o Landdona o'r enw Goronwy Tudur yn gwybod yn bur dda am eu castiau ac yn feistr corn arnynt. Un diwrnod aeth allan i'r caeau, a'i wn gydag ef, i edrych ei wartheg. Er mawr syndod iddo gwelodd ysgyfarnog fawr yn eistedd o dan un fuwch yn sugno llefrith. Ar unwaith gafaelodd yn ei wn a saethodd hi'n ei choes. I ffwrdd a'r ysgyfarnog ond yn llawer arafach y tro hwn ac oherwydd hynny llwyddodd Goronwy Tudur i'w dilyn. Aeth i mewn i dy heb fod ymhell a Goronwy ar ei hôl. Yno yn eistedd o flaen y tân gwelodd wrach a'i choes yn gwaedu. Gwyddai Goronwy mai hon oedd y wrach a saethodd ychydig ynghynt. Gan ei fod wedi llwyddo i wneud iddi waedu gwyddai na fyddai modd iddi wedyn ei felltithio ef. Nid oedd pawb mor ffodus â Goronwy Tudur a pharhâi'r gwrachod i boeni pobl Llanddona. Roedd y trigolion am roi diwedd unwaith ac am byth ar eu campau a phenderfynwyd cael cyngor gwr o'r enw Cilhaul, sef dewin adnabyddus o Sir Gaernarfon. Pan glywodd y gwrachod am hyn roeddynt yn ddig iawn ac aeth un ohonynt i chwilio am Gilhaul a cheisio ei rwystro rhag cyrraedd Llanddona. Gwelodd ef yn cerdded heb fod ymhell o Fiwmares a llwyddodd i'w dwyllo drwy ei anfon i gyfeiriad hollol wahanol. Mawr oedd y llawenydd ymysg y gwrachod am eu bod wedi llwyddo i dwyllo Cilhaul y dewin enwog. Erbyn hyn roedd y pentrefwyr wedi cyrraedd pen eu tennyn. Sut oedd cael gwared â'r gwrachod? Penderfynwyd cynnal cyfarfod i drafod beth i'w wneud nesaf. Cafodd un gwr doeth syniad da. Gwyddai y byddai'r gwrachod yn arfer dod a phob math o bethau na ddylen nhw i'r wlad trwy eu glanio yn ystod y nos ar Draeth Coch. Felly, un noson, pan oedd y llanw'n uchel aeth ef a'i ffrindiau i lawr at y môr gan fynd a gwyr y tollau gyda hwy. Pan gyrhaeddodd criw Llanddona'r traeth roedd y gwrachod wrthi yn cario casgenni a chisitiau oddi ar y cychod i'r lan. Ni fu'r criw yn hir cyn eu hamgylchynu, ond yn ofer. Daeth y gwrachod atynt yn heriol ac agor cwlwm y sgarffiau oedd ganddynt am eu gyddfau. Allan o'r sgarff daeth dwsinau o bryfed. Dechreuodd pob un hedfan yn fygythiol ar ôl criw Llanddona a'u pigo'n ddidrugaredd. Rhedodd y pentrefwyr am adref a'u cynlluniau yn chwilfriw. Methiant fu'r ymdrech i gael gwared o'r gwrachod y noson honno. Yn wir, bu'r gwrachod yn byw yn Llanddona am flynyddoedd wedyn. Erbyn heddiw maent i gyd wedi marw ac nid oes yr un wrach yn byw yn Llanddona bellach. |