Teaching Resources > KS4 > Welsh Second Language > Dysgu ac adolygu gramadeg Cymraeg
Dysgu ac adolygu gramadeg Cymraeg
Adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu ac adolygu gramadeg Cymraeg.

Mae’r gwaith wedi ei fwriadu ar gyfer disgyblion sy’n dilyn cwrs TGAU Cymraeg Ail Iaith ond gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer disgyblion eraill sy’n dysgu’r Gymraeg yn ogystal.

Mae’r gwaith yn cynnwys saith adran sef:

  • Berfau
  • Cwestiynau ac atebion
  • Disgrifio
  • Amser
  • Rhifau
  • Arddodiaid
  • Rhagenwau.

Mae pob adran wedi ei rhannu’n saith rhan, sy’n ymdrin â gwahanol agweddau ar y pwnc. Mae’r rhain yn ymwneud â sefyllfaoedd a’r math o iaith sy’n gyfarwydd i ddisgyblion sy’n astudio cyrsiau Cymraeg Ail Iaith.

Ar ddechrau pob adran mae cyflwyniad sy’n egluro ac yn enghreifftio patrymau penodol.

Yna, yn dilyn pob cyflwyniad, mae amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymarfer rheolau gramadegol penodol, e.e. llenwi bylchau, llenwi tablau, croeseiriau, llusgo, ymateb i lun, ymateb i gwestiynau amlddewis, gwrando a deall, darllen a deall, ad-drefnu brawddegau ac ati. Rhoddir adborth ar bob sgrin ac os yw ateb yn anghywir, mae cyfle i ail-wneud y gweithgaredd.

Mae’r adnodd yn ddefnyddiol ar gyfer yr ystafell ddosbarth ond gobeithio, hefyd, y bydd disgyblion yn troi ato’n annibynnol fel eu bod datblygu eu dealltwriaeth o reolau gramadeg ac yn cael hwyl yr un pryd.

Software requirements
Resources also tagged with..
arddodiaid
KS3 | French (inc all MFL)
amser
KS1 | Mathematics
SEN | Clicker Grids