Adnoddau Addysgu > CA4 > Gwyddoniaeth > Gwyddoniaeth CBAC > Cemeg > Cemeg 2 - Dŵr
Cemeg 2 - Dŵr

Mae’r PowerPoint hwn yn trafod dŵr o’r fanyleb Cemeg 2. Bydd y dysgwr yn:

Dylai disgyblion:

(a) disgrifio yn fras sut mae'r cyflenwad dŵr cyhoeddus yn cael ei drin, gan ddefnyddio haenau hidlo a chlorineiddiad.

(b) gallu llunio cromliniau hydoddedd a'u dehongli gan ddefnyddio data a roddir ar newid hydoddedd gyda thymheredd.

(c) gwybod achosion caledwch mewn dŵr a gwahaniaethu rhwng dŵr caled a dŵr meddal trwy eu hymddygiad gyda sebon.

(ch) cynllunio a chyflawni arbrofion i fesur math (dros dro neu barhaol) a swm y caledwch gan ddefnyddio hydoddiant sebon.

(d) gwybod sut mae'r dulliau, sef berwi, ychwanegu sodiwm carbonad a chyfnewid ïonau, yn gweithio i feddalu dŵr a thrafod eu manteision a'u hanfanteision.

(dd) gwerthuso manteision ac anfanteision dŵr meddal a dŵr caled.

Gofynion meddalwedd