Cemeg 2 - Defnyddiau Craff
Mae’r PowerPoint hwn yn trafod Defnyddiau Craff o’r fanyleb Cemeg 2. Bydd y dysgwr yn:
Dylai disgyblion:
(a) gwybod y rhoddwyd y term defnydd craff i amrywiaeth o ddefnyddiau modern y mae eu priodweddau yn newid gyda newid yn yr amgylchoedd, megis newidiadau mewn tymheredd, golau, pH, ayb., er enghraifft:
- paent thermocromig, sy'n newid lliw wrth gael ei wresogi.
- paent ffotocromig, sy'n newid lliw wrth i olau ddisgleirio arno.
- aloi sy'n cofio siâp, fel NiTi neu nitinol, sef aloi o nicel a thitaniwm, sy'n gallu adennill ei siâp gwreiddiol wrth gael ei wresogi; rhai o'r ffyrdd y gellir ei ddefnyddio yw ar gyfer thermostat i jwg goffi, fframiau sbectol gorelastig, stentiau ar gyfer gwythiennau, ayb.
- polymer sy'n cofio siâp, sydd â'r gallu i adennill ei siâp gwreiddiol wrth gael ei wresogi; rhai o'r ffyrdd posibl y gellir ei ddefnyddio yw ar gyfer pwythau llawfeddygol bioddiraddadwy a fydd yn tynhau yn awtomatig i'r tensiwn
- cywir a chyrff ceir hunan-drwsio a fydd yn adennill eu siâp wrth gael eu gwresogi yn ofalus ar ôl tolc.
- mae gan geliau polymer, fel hydrogeliau, adeiledd polymer trawsgysylltiedig wedi'i enchwythu â hydoddydd, fel dwr; mae'r gel yn gallu chwyddo neu grebachu (hyd at 1000 gwaith ei gyfaint) oherwydd newidiadau bach mewn,
e.e. tymheredd neu pH; rhai o'r ffyrdd y gellid ei ddefnyddio yw ar gyfer cyhyrau artiffisial, ysgogwyr robotiaid, amsugnyddion cemegau gwenwynig, ayb.
(b) defnyddio data a roddir i werthuso effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol defnyddio defnyddiau craff.
Gofynion meddalwedd
Rhannu gyda...
