Mae’r PowerPoint hwn yn trafod Cynhyrchu a Defnyddiol Metelau o’r fanyleb Cemeg 2. Bydd y dysgwr yn dos i wybod am:
Dylai disbylion:
(a) archwilio'r berthynas rhwng y dull o echdynnu metel o'i fwyn a'i safle yn y Gyfres Adweithedd (e.e. echdynnir alwminiwm, metel adweithiol, trwy electrolysis; echdynnir haearn, metel llai adweithiol, trwy rydwythiad cemegol).
(b) defnyddio adweithiau dadleoli a chystadleuaeth metelau i ganfod eu hadweithedd cymharol.
(c) egluro'r termau rhydwythiad (tynnu ocsigen) ac ocsidiad (ennill ocsigen) a sylweddoli pan fyddant yn digwydd mewn adweithiau.
(ch) gwybod bod angen rhydwythiad i echdynnu metel.
(d) gwybod ystyr y termau electrolysis, electrod, anod, catod ac electrolyt.
(dd) gwybod am y prosesau sy'n ymwneud ag echdynnu alwminiwm yn fasnachol, gan gynnwys gallu ysgrifennu a dehongli hafaliadau geiriau a hafaliadau symbol cytbwys ar gyfer yr adweithiau wrth yr anod a'r catod.
(e) gwybod y rhesymau dros gost uchel y broses a sut y cedwir y costau hyn mor isel ag y bo modd.
(f) gwybod bod ailgylchu alwminiwm yn defnyddio tua 5% yn unig o'r egni sydd ei angen i'w echdynnu o focsit a'i fod yn arbed gwastraff.
(ff) trafod y ffactorau sy'n effeithio ar leoliad ffatri echdynnu alwminiwm.
(g) cysylltu'r defnydd a wneir o alwminiwm, copr a thitaniwm â'u priodweddau.
(ng) cysylltu'r defnydd a wneir o wahanol fathau o ddur â'u cyfansoddiad a'u priodweddau.
(h) gwybod bod dur yn cael ei ailgylchu ar raddfa eang a bod ailgylchu dur yn arbed 50% o'r egni a ddefnyddir i echdynnu haearn, yn helpu i gadw cronfeydd o fwyn haearn a hefyd yn lleihau'r nwyon ty gwydr a allyrrir.
(i) gwerthuso effaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol defnyddio ac echdynnu metelau.
