- English
- |
- Cymraeg
Tiwtora a mentora
Yn yr adran hon, fe welwch adnodd a ddarparwyd gan ganolfan a fu'n rhan o beilot y Bac Cymreig.
A fyddech cystal ag anfon atom unrhyw adnoddau rydych chi wedi'u datblygu a'u defnyddio'n llwyddiannus er mwyn cyflwyno Tiwtora a mentora.
Gan Dîm y prosiect
Datblygwyd y deunyddiau isod i ddechrau gan gyd-gysylltydd CBC i ddatblygu sgiliau ei dîm fel tiwtoriaid personol neu hyfforddwyr dysgu. Bwriedir eu defnyddio ar y cyd. Mae'r cyflwyniad PowerPoint wedi'i anodi i helpu'r hyfforddwr ei gyflwyno'n llwyddiannus.
- Rôl yr Anogwr Dysgu - Canllaw Arfer Gorau
Taflen y gellir ei hargraffu a'i defnyddio i hyfforddi staff.
Mae rôl yr Hyfforddwr Dysgu neu diwtor yn hollbwysig i lwyddiant y Bac Cymreig. Beth yw ei ofynion? Beth yw'r rhinweddau y dylai hyfforddwr dysgu eu cael? Beth yw ei g/chyfrifoldebau?
(Diolch i Emma Laidlaw, Prif Hyfforddwr Dysgu yn Ysgol Sant Cyres, Penarth) - Anogwr dysgu
Cyflwyniad PowerPoint a grewyd i hyfforddi athrawon sy'n cyflwyno'r CBC.
Mae gan yr hyfforddwr dysgu/tiwtor personol rôl allweddol i'w chwarae yn llwyddiant y myfyriwr CBC. Nodwedd bwysig o'r CBC yw helpu myfyrwyr i ddod yn fwy hyderus ac yn ddysgwyr annibynnol. Mae'r cymorth a'r gefnogaeth y byddant yn ei gael gan eu tiwtor personol neu hyfforddwr dysgu yn hanfodol i hyn. - Enghraifft o gofnodi cyweliadau un-ag-un