Astudiaeth achos: Ysgol Morgan Llwyd

Pwy yw'r Bos?

Cydran CBC
CEB Gweithgaredd Menter TÓm

Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
GE (lefel 3)

Gweithgaredd
Sefydlu a rhedeg Cwmni Menter

  • Myfyrwyr i ddewis eu Menter gyda chymorth y Cydlynydd.
  • 'Ffatri Fenter' (y WDA) i gefnogiХr Cwmni Menter dros gyfnod o ddau dymor.
  • Y Cwmnïau Menter a ddewiswyd ar gyfer eleni:
    Theatr y Ddraig
    Ysgol Bêl-rwyd
    Academi Bêl-droed
    Ysgol Ddawns
    Grŵp Roc
    Gorsaf Radio
    TyҐ Bach Twc

Adnoddau

  • Ymweliadau rheolaidd gan gynrychiolwyr Ffatri Fenter WDA - cyfweliadau, cymorth ariannol (mewn rhai achosion, ee GrwҐp Roc), a chyswllt e-bost rheolaidd ä phob Rheolwr Cwmni.
  • Ymweliadau gan 'Dynamo' y WDA - siaradwyr gwadd - pob un yn berchennog busnes llwyddiannus.
  • Deunydd a gyhoeddwyd gan 'Dynamo' - Pwy yw'r Bos? Copi i bob myfyriwr. www.projectdynamo.com

Menter
Mae Menter yn rhan o Faes Llafur y Bac Cymreig ond maeХn brofiad sy'n ateb gofynion  sgïl allweddol Gweithio Gydag Eraill Р Lefel 3 o'i wneud yn effeithiol. Yn 2004/05, roedd 7 Menter, yn cael eu cyflawni dros ddau dymor, sef o fis Medi / Hydref  tan Y Pasg.

Y saith Menter oedd:
Theatr Y Ddraig Р- myfyrwyr yn cynnal ysgol ddrama bob nos Fercher ar gyfer disgyblion CA3 a CA4. Perfformiwyd dwy sioe ganddynt, sef Breuddwyd Mabon - pantomeim - perfformiwyd i'r cyhoedd dros ddwy noson a chynhaliwyd 4 matinee - 2 i'r ysgolion cynradd sy'n bwydo'r ysgol, a 2 i ddisgyblion iau Ysgol Morgan Llwyd.

Yr ail sioe a berfformiwyd oedd 'Iechyd Da!' a berfformiwyd i'r cyhoedd dros ddwy noson ynghyd ä 2 matinee i ddisgyblion yr ysgol iau.

Academi Bêl Droed - 7 o hogiau yn cynnig ysgol bђl droed i Flynyddoedd 5 a 6 yr ysgolion cynradd yn yr ardal. Hynny bob nos Iau. Hefyd yn cynnal yr academi i ddisgyblion CA3 bob amser cinio dydd Mercher.

Ysgol Bêl Rwyd - 7 o ferched yn cynnal yr ysgol hon ar gyfer Blynyddoedd 5 a 6 yr ysgolion cynradd. Hyn bob nos Iau.

Y Band 'No Star' - band yn chwarae 'covers' Saesneg fu'r rhain ers Bl. 9. Cynigiwyd iddynt droiХn fand Cymraeg fel rhan o'u Menter gan geisio gweld beth fyddai profiad o lwyddiant peth felly.

Mae'r band hwn wedi sodro eu hunain yn lleol bellach yn y byd Cymreig gan gynnal sawl 'gig' i'r sefydliadau Cymraeg, hen ac ifanc! Maen nhw wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr Y Bandiau ar C2, Radio Cymru!

Ysgol Ddawns - cynhaliwyd yr ysgol ddawns bob amser cinio dydd Mercher a dydd Iau. Genod CA3 yn hynod hoff o'r gweithgaredd hwn!

Tŷ Bach Twc - siop yn gwerthu melysion, creision a diodydd bob awr ginio ar ddydd Mercher. Hefyd yn cynnal y siop yn ystod perfformiadau Theatr Y Ddraig a gigs 'No Star'' i'r ysgol.

Gorsaf Radio 'Cartrefle'' - gorsaf radio yn chwarae cerddoriaeth / ceisiadau gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod yr awr ginio bob dydd Mawrth, Mercher a Iau. Ail gynlluniwyd system 'tanoi' yr ysgol fel eu bod yn gallu 'darlledu' i'r ffreutur a'r man ymgynnull y tu allan i'r Llyfrgell. Cawsant hyfforddiant ar ddarlledu gan NEWI (North East Wales Institute) a chawsant hefyd gyfle i ddarlledu yn y Gymraeg i ardal gyfan Wrecsam yn ystod Wythnos yr Wyl Wyddoniaeth - 2 raglen awr yr un. (Mis Mawrth)

Adnoddau
Yn gefn i'r Cwmnu Menter oedd Ffatri Fenter (WDA).

Cafwyd ymweliadau cychwynnol gan gynrychiolydd y cwmni. Ei gwaith oedd cyfweld pob Cwmni Menter a chynnig y ffordd ymlaen iddynt. Yn ystod y ddau dymor, ymwelodd ä'r cwmnïau yn gyson i fonitro eu hynt a'u helynt. Gwasanaeth ardderchog yn wir!

Cawsom hefyd fewnbwn gan 'Dynamo' (WDA) lle cawsom ymweliad gan 8 entrepreneur, dros ddau sesiwn, yn sôn wrth y myfyrwyr am eu cwmnïau arbennig nhw. (Gwasanaeth da - ond dim ond un siaradwr Cymraeg Llyfrgell. Cawsant hyfforddiant ar ddarlledu gan NEWI (North East Wales Institute) a chawsant hefyd gyfle i ddarlledu yn y Gymraeg i ardal gyfan Wrecsam yn ystod Wythnos yr Wyl Wyddoniaeth 2 raglen awr yr un. (Mis Mawrth)

Termau a Amodau