- English
- |
- Cymraeg
Astudiaeth achos: Coleg Glannau Dyfrdwy
Hau Hadau
Cydrannau CBC
CEB Gweithgaredd Menter TÓm
ABCh Cyfranogi yn y Gymuned
Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
Cyfathrebu, GE, DP
Darperir 'trywydd' Sgiliau Allweddol isod.
Nod
Nod y prosiect oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgaredd Menter TÓm, a rhoi profiad iddynt ar yr un pryd o wneud gwaith gwirfoddol yn eu cymuned leol.
Gweithgareddau
Cynlluniwyd yr ymarfer hwn fel Wythnos Fenter (amserlen ohiriedig), ond gellid addasu'r model hwn i raddfeydd amser gwahanol.
Cyn yr Wythnos Fenter, roedd y myfyrwyr wedi ffurfio tri grwҐp i ymchwilio a thrafod gwaith detholiad o elusennau lleol a glustnodwyd gan Wasanaethau Gwirfoddol Sir y Fflint, a dewis tri i weithio gyda nhw (un grwҐp o fyfyrwyr i bob elusen). Hefyd, lluniwyd cynlluniau ganddynt ar gyfer gweithgareddau posib yn ymwneud ä'u dewis elusen. (Cyfleoedd i fodloni anghenion sgÒl allweddol Cyfathrebu.) Gyda help staff, cysylltodd y myfyrwyr ä'r elusennau i gytuno ar y gweithgareddau a gynlluniwyd a gwneud trefniadau ar eu cyfer.
Ar ddechrau'r wythnos, bu'r grwpiau'n ymweld ä'r amrywiol elusennau. Rhoddodd hyn gipolwg i'r myfyrwyr ar drefniadau gwaith yr elusen o ddydd i ddydd. Roedd yr ymweliadau'n cynnwys hanner diwrnod o waith ar dasg er budd yr elusen. Roedd y tasgau'n cynnwys paentio ystafell; codi arian drwy olchi ceir; ffeilio a gweinyddu; sefydlu swyddfa.
(Cyfleoedd ar gyfer defnyddio ffotograffau fel tystiolaeth.) Rhoddodd y tasgau hyn beth profiad o waith gwirfoddol i'r myfyrwyr, a synnwyr o gyflawniad personol. Hefyd, rhoddodd gipolwg i'r myfyrwyr o amcanion yr elusen a'r ffordd a weithiai.
Ail gam y gweithgaredd oedd i'r myfyrwyr wneud dadansoddiad SWOT o'r elusen, drwy gyfweld ä'r staff ac arsylwi drostynt eu hunain. Defnyddiodd pob grwҐp gyfres generig o gwestiynau a baratowyd gan staff.
Y trydydd cam oedd Hyfforddiant Menter. Fe'i darparwyd gan Business Dynamics (Awdurdod Datblygu Cymru) a gyflwynodd gynllunio busnes, costio ariannol a marchnata ar ffurf syml i'r myfyrwyr. Roedd gweithgaredd efelychu menter hefyd wedi ei gynnwys er mwyn i'r myfyrwyr allu gweithredu'r hyn roedden nhw wedi ei ddysgu. Hefyd cafwyd arweiniad ar farchnata ac ariannu gan siaradwyr gwadd o ddiwydiannau lleol.
Yn ystod cam pedwar yr wythnos, datblygodd pob grwҐp Gynllun Busnes wedi'i seilio ar ganfyddiadau Cam Dau, cyn ffurfioli dadansoddi SWOT gyda thair gweithred i'r elusen ymgymryd ä nhw. Aeth y myfyrwyr yn ªl at eu dewis elusen am sesiwn brynhawn lle cafodd y dadansoddiad SWOT ac argymhellion drafft eu trafod a'u haddasu. (DP)
Yn ystod cam pump, gweithiodd pob grwҐp ar y weithred a ffafriwyd gan eu helusen. Pwrpas y cam yma oedd creu canlyniadau go iawn i'r Gweithgaredd Menter rhag iddo fod yn ddim ond ymarfer damcaniaethol. Er hynny, cyfyngwyd ar y gweithredu gan yr amser a neilltuwyd i'r cam hwn yn ystod yr Wythnos Fenter, sef 1.5 diwrnod. Roedd y cam yma'n cynnwys paratoi cyflwyniadau PowerPoint.
Cyflawnwyd y cam olaf ar brynhawn olaf yr Wythnos Fenter pan fynychodd cynrychiolwyr o bob un o'r tair elusen gyflwyniadau gan bob grwҐp. Cafwyd sesiwn lawn i ddilyn lle gwerthuswyd y prosiect a chyflwynwyd argymhellion ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Yna, cyflwynwyd tystysgrifau i'r myfyrwyr gan Business Dynamics.
(I fodloni gofyniad amser ABCh, trefnodd y myfyrwyr i wneud gwaith gwirfoddol pellach gyda'r elusen roedden nhw wedi bod ynghlwm ä hi.)
Pwyntiau ymarferol:
Cynllunio / paratoi gan Business Dynamics a Gwasanaethau Gwirfoddol y Sir
1 wythnos lawn 30 awr i gyflwyno'r gwaith (modd ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod hirach)
Amserlen a chynllunio: 6 wythnos o gynllunio
Cyfarfodydd gyda Business Dynamics, Gwasanaethau Gwirfoddol, staff y Coleg - 4 awr
Cyfarwyddyd cyn y prosiect i fyfyrwyr gan y Gwasanaethau Gwirfoddol - 1 awr
Amser staff i baratoi holiadur generig - 2 awr
