- English
- |
- Cymraeg
Astudiaeth achos: Coleg Penfro
Arch Noa
Cyfleoedd CBC
AGG Gweithgaredd Menter Tîm(Lefel Uwch)
Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
DP - Lefel 2 (Problem 2)
GE - Lefel 2 (Un i un)
Gweithgaredd
Rhaid oedd i'r myfyrwyr ddewis elusen i godi arian ar ei chyfer a dyfeisio o leiaf un dull o wneud hyn.
Bu myfyrwyr Safon Uwch Coleg Penfro yn cynnal cyfres o gyfarfodydd i drafod pa elusen i'w chefnogi, sut i ddyrannu swyddogaethau, strategaethau marchnata, materion Iechyd a Diogelwch, cynllunio amserlenni a manylu ar sut i godi'r arian.
Penderfynodd y myfyrwyr wisgo gwisgoedd ffansi ac ymweld ag ystafelloedd dosbarth a swyddfeydd staff i gasglu cyfraniadau a gwerthu tocynnau raffl am fasged Nadolig y cyfrannodd pawb nwyddau tuag ati. Cysylltodd y myfyrwyr ag aelodau allweddol o staff e.e. y swyddog Iechyd a Diogelwch, y swyddog Ariannol a'r adran Farchnata.
Wedi'r digwyddiad, cyhoeddwyd erthygl amdano yn y papur lleol a chyflwynwyd siec anferth i Apђl Arch Noa