- English
- |
- Cymraeg
Dynamo
Defnyddiau dysgu entrepreneuriaeth 16 - 19
Datblygwyd y defnyddiau dysgu entrepreneuriaeth Dynamo arloesol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o ymrwymiad ehangach i gefnogi athrawon a meithrin datblygu entrepreneuriaeth mewn pobl ifanc yng Nghymru.
Defnyddiau a hyfforddiant dynamo 16 - 19
Dyluniwyd defnyddiau dynamo 16 – 19 er mwyn annog myfyrwyr i ddefnyddio’u dychymyg a datblygu’r sgiliau y byddant eu hangen i lwyddo yn eu bywydau ac ym mheth bynnag y byddant yn dewis ei wneud trwy gymryd rhan weithgar mewn cydweithio, holi cwestiynau, datrys problemau a chymryd penderfyniadau a’r cyfan mewn modd hwyliog a heriol.
Beth mae’n ei gynnwys?
Llawlyfr Athro, sy’n rhoi canllaw ar gyfer darparu, gan gynnwys taflenni gweithgaredd manwl ac adnoddau. CD Rom, gyda gweithgareddau rhyngweithiol, gweithlenni golygu, deunydd ysgogi fideo a’r cyfan o gynnwys y Llawlyfr Athro. Maen nhw’n barod i’w defnyddio a gellir eu haddasu’n rhwydd ar gyfer amrywiaeth o grwpiau oedran a lefelau o allu.
Sut alla i eu defnyddio?
Mae’r defnyddiau wedi’u datblygu gan athrawon ar gyfer athrawon. Nodwyd cysylltiadau gyda Dysgu Craidd 14 - 19 (gan gynnwys Sgiliau Allweddol) a Bagloriaeth Cymru. Yn ogystal, bydd llyfryn yn cynnwys mapio Sgiliau Allweddol hefyd ar gael yn yr hyfforddiant.
Sut allai'n hysgol/coleg ni gael gafael ynddynt?
Mae’r defnyddiau ar gael yn rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg ar ôl cwblhau’r Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Proffesiynol Dynamo.
Hyfforddiant Datblygu Proffesiynol Dynamo yn Rhad ac am Ddim
Digwyddiadau hyfforddiant hanner diwrnod mewn lleoliadau led led Cymru.
Cyllid trwy’r Gronfa Ysgolion Gwell neu fwrsarïau GTCW
Gwasanaeth archebu dros y ffôn.
Ffoniwch 029 2082 8842