Dynamo - Deunyddiau Addysgu Entrepreneuriaeth 14 - 19

Mae deunyddiau addysgu entrepreneuriaeth Dynamo wedi'u datblygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fel rhan o ymrwymiad ehangach i gynorthwyo tiwtoriaid a meithrin datblygiad entrepreneuraidd ymysg pobl ifanc Cymru.

Mae deunyddiau Dynamo 14 - 19 wedi'u cynllunio i annog myfyrwyr i ddefnyddio eu dychymyg ac i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i fod yn llwyddiannus yn eu bywydau, beth bynnag y byddant yn dewis ei wneud, drwy gydweithio, holi cwestiynau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau mewn ffordd hwylus a heriol.

Maent yn cynnwys:

  • Llawlyfr Athro – canllaw cyflwyno sy'n cynnwys taflenni gweithgareddau manwl ac adnoddau.
  • crynoddisg gyda gweithgareddau rhyngweithiol, taflenni gwaith y gellir eu golygu, deunydd a ysgogir gan fideo a chynnwys llawn llawlyfr yr athro.
  • Dau weithgaredd arloesol. Gêm fwrdd ar y llawr lle mae angen i fyfyrwyr fod yn gystadleol a gwneud penderfyniadau cyflym fel tîm neu unigolion a gêm gyfrifiadur rhyngweithiol, lle mae myfyrwyr yn cynllunio ac yn rholi canolfan siopa.

Mae'r deunyddiau ar gael am ddim yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ôl cwblhau'r rhaglen hyfforddiant i athrawon.Mae digwyddiadau hyfforddiant undydd ar gael mewn lleoliadau ledled Cymru. Ffoniwch 08451 080561.

Termau a Amodau