- English
- |
- Cymraeg
businessdynamics
Beth yw businessdynamics?
Elusen addysg busnes a menter yw businessdynamics a’i nod yw dod â byd busnes yn fyw i bobl ifainc. Mae gwirfoddolwyr o gwmnïau’n cyflwyno myfyrwyr, rhwng 14 a 19 oed, i gyfleoedd a heriau byd busnes yn ogystal â gwella eu sgiliau allweddol i baratoi at fyd gwaith. Gwneir hyn drwy amrywiaeth o raglenni.
Sefydlwyd businessdynamics yn 1977 gan 3i, prif gwmni cyfalaf menter Ewrop, yn ymddiriedolaeth ddi-elw, a’r enw arno tan fis Mawrth 2001 oedd Understanding Industry. Heddiw mae’n cael cefnogaeth y rhan fwyaf o’r prif gwmnïau ym Mhrydain yn ogystal â’r llywodraeth, yn rhan o’r ymdrech i annog pobl ifainc i ddeall byd busnes ac ymwneud mwy ag ef.
Mae un o bob tri sy’n gadael ysgolion a cholegau’n credu nad yw eu haddysg wedi’u paratoi at fyd gwaith. Nod rhaglenni businessdynamics yw mynd i’r afael â hyn drwy ddod â gwirfoddolwyr o fusnesau lleol i’r ystafell ddosbarth.
Mae businessdynamics yn cynnig dau fformat rhaglenni sylfaenol gydag amrywiadau.
1. Y rhaglen graidd yw’r Rhaglen Ymwybyddiaeth Busnes sy’n rhedeg dros ddeuddydd ac a ddatblygwyd i fyfyrwyr ôl-16 ond sydd wedi’i haddasu ers hynny i grwpiau oedran eraill. Mae’n cynnwys elfennau o fusnes, menter a sgiliau allweddol. Mae’n cynnwys gwaith project, ac mae myfyrwyr yn magu hyder ac ymdeimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth ar ôl gwneud y prosiect a’r cyflwyniad. Gellir addasu’r rhaglen i fod yn ddigwyddiad un diwrnod a’i deilwra i ateb anghenion unigol ysgolion.
Y gost yw £250 i bob dosbarth o hyd at 30 myfyriwr.
Mae amrywiadau o’r rhaglen graidd yn cynnwys y Rhaglen e-fusnes a Rhaglen Ymwybyddiaeth Dylunio. Mae amrywiadau eraill wedi bod yn gysylltiedig â Ffilm a’r Cyfryngau. Yn amlwg, gellir dyrchafu’r elfen sgiliau allweddol fel mai dyma’r brif gydran.
Mae’r Rhaglen hon wedi’i haddasu i lansio Gweithgaredd Menter Tîm Bagloriaeth Cymru ac mae wedi’i chyflwyno i 500 myfyriwr hyd yn hyn gyda 400 arall i ddod y flwyddyn academaidd hon.
2.Mae’r rhaglen annibynnol Rhaglen Sgiliau Allweddol yn rhaglen un diwrnod sydd wedi’i chyflwyno’n llwyddiannus i fyfyrwyr ôl-16. Bwriad y gweithgareddau yw annog myfyrwyr i ddefnyddio’r sgiliau allweddol mewn grwpiau ac yn unigol. Mae’r sesiwn Adrodd yn Ôl yn bwysig iawn. Mae’n cael ei goruchwylio a’i harwain gan yr athro priodol ac mae’n gofyn i fyfyrwyr adolygu eu defnydd o sgiliau allweddol yn ystod y dydd a nodi cryfderau a gwendidau. Caiff ffurflenni a llyfrynnau eu darparu i helpu’r myfyrwyr a gall yr ysgol ddefnyddio’r cofnodion hyn i fonitro datblygiad y myfyriwr.
Cost y rhaglen fel arfer yw £250 am ddau ddosbarth o hyd at 30 myfyriwr.
Er bod y gweithgareddau’n hybu’r defnydd o sgiliau allweddol, maen nhw hefyd yn cynnwys elfennau o fusnes a menter. Mae’r fformat wedi’i addasu i fod â thema ‘Menter’ ac mae wedi’i gyflwyno i 150 o fyfyrwyr ar sail carwsél.
Gellir teilwra’r ddau fformat rhaglenni i ateb anghenion ysgol neu grŵp o ysgolion arbennig. Mae’r Rhaglen Sgiliau Allweddol wedi cael ei chyflwyno wrth ochr Gyrfaoedd Cymru’n cyflwyno ‘Prototoy’ dros ddeuddydd yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.
Rhagor o nodiadau am gynhyrchion businessdynamics
- Rhaglen Ymwybyddiaeth Busnes
- Y Prosiect
- Rhaglen Sgiliau Allweddol
Rhaglen Ymwybyddiaeth Busnes dros ddeuddydd. Ei nod yw cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr o fyd busnes a’u hannog i ddefnyddio Sgiliau Allweddol. Mae hefyd yn hyrwyddo arweinyddiaeth, trefniadaeth a chynllunio.
Gellir addasu pob Rhaglen Ymwybyddiaeth Busnes a’i hamrywiadau i’r fformat un diwrnod.
Gwahoddir cynrychiolwyr o fyd busnes i gyflwyno seminarau rhyngweithiol ar amrywiaeth o bynciau. Datblygwyd y rhaglen yn wreiddiol i Flynyddoedd 12 a 13 ond mae wedi cael ei chyflwyno’n llwyddiannus i fyfyrwyr Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11. Mae’r Rhaglen hefyd wedi cael derbyniad gwresog gan fyfyrwyr ag anawsterau dysgu mewn nifer o ysgolion. Fel arfer mae’n costio £250 y dosbarth o hyd at 30 o fyfyrwyr.
Gallai rhaglen nodweddiadol gynnwys:
Diwrnod 1
1.0 Cyflwyniad
1.1 Sgiliau Personol
1.2 Marchnata
1.3 Dylunio ym Myd Busnes
1.4 Gwaith Prosiect
Diwrnod 2
1.5 Adeiladu timau
1.6 Sgiliau Menter neu Gyflwyno
1.7 Gwaith Prosiect
1.8 Cyflwyniadau
1.9 Cloi
Mae'r Prosiect yn entrepreneuraidd ei natur ac mae'n gofyn i fyfyrwyr (mewn timau) ddatblygu syniad busnes, sy'n ddychmygus ond hefyd yn fasnachol. Wedyn rhaid iddynt wneud cyflwyniad o'u cynllun busnes bach yn dweud wrth y gynulleidfa beth yw eu cynnyrch, pwy fydd yn ei brynu, pam byddant yn ei brynu, ble byddant yn ei brynu ac ati. Mae gwaith prosiect yn ddwys. Mae angen i dimau gael eu harwain yn dda, bod yn drefnus, a defnyddio'u hamser yn effeithlon. Mae'n annog arferion busnes da, sy'n cael eu trafod a'u harfer gydol y Rhaglen.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau cyflwyno.
Cynigir amrywiadau ar y Rhaglen safonol drwy gynnwys thema e.e. Dylunio, a gynigir ar y cyd â UWIC ac sy’n ddefnyddiol i fyfyrwyr Dylunio a Thechnoleg.
Yr amrywiad mwyaf amserol yw’r Rhaglen e-Fusnes sy’n dilyn yr un fformat â’r rhaglen safonol ond sy’n gofyn i fyfyrwyr ddatblygu busnes rhyngrwyd.
Mae’n cynnwys sesiynau ar:
Diwrnod 1
2.0 Cyflwyniad
2.1 Cynllunio Busnes
2.2 e-Farchnata
2.3 Dylunio Gwefan
2.4 Gwaith Prosiect
Diwrnod 2
2.5 Cyllid
2.6 Rheoli
2.7 Gwaith Prosiect
2.8 Ymarferion Prosiect
2.9 Cyflwyniadau Prosiect
2.10 Cyflwyno Tystysgrifau
Dyma Raglen ddwys dros ddeuddydd y mae myfyrwyr yn ei mwynhau. Pwynt pwysig o’i phlaid yw ei bod yn cynnig cyfle prin i fyfyrwyr TG, myfyrwyr Astudiaethau Busnes a myfyrwyr eraill ddysgu sgiliau oddi wrth ei gilydd.
Mae businessdynamics hefyd yn darparu Rhaglen Sgiliau Allweddol undydd i Flynyddoedd 10 a 11. Mae’n cynnig tair seminar i ddangos Sgiliau Allweddol a gofynnir i’r myfyrwyr grynhoi eu profiad ar ddiwedd y diwrnod. Mae’r Rhaglen hon hefyd wedi cael ei chyflwyno i fyfyrwyr Blwyddyn 8 ac i fyfyrwyr Blynyddoedd 12 a 13. Gellir teilwra pob gweithgaredd i anghenion yr ysgol a byddant yn ymwneud â busnes neu fenter yn ôl y thema i’r rhaglen.
Fel arfer mae’n costio £250 am ddau ddosbarth o hyd at 30 myfyriwr.
Diwrnod 1
3.0 Cyflwyniad
3.1 Adeiladu Tîm
3.2 Cyfathrebu
3.3 Datrys Problemau
3.4 Adrodd yn Ôl
3.5 Crynodeb a Chyflwyniad
Mae fformat y rhaglenni’n cynnig cryn hyblygrwydd a gellir eu haddasu’n hawdd i ateb anghenion arbennig ysgol neu goleg.