- English
- |
- Cymraeg
Yn seiliedig ar syniad gan Goleg Glannau Dyfrdwy
Ymweliad â Llundain
Cydrannau CBC
CEB Elfen 1, Mater allweddol 1
ABCh Elfen 3, Mater allweddol 1
Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
Cyfathrebu C2.1a; C2.1b; C2.3; C3.1a; C3.
CRh
[Potensial ar gyfer Gweithgaredd Menter a GE.]
Nod
Nod y daith hon yw mynd ä myfyrwyr i ymweld â'r Senedd, Abaty Westminster a dau atyniad arall o'u dewis. Pe gellid cynnwys arhosiad dros nos, yna gallai'r ymweliad fod yn ganlyniad y gweithgaredd Menter (codi arian) ac felly gallai gynnwys GE hefyd.
1. Gwaith rhagarweiniol
Gweithgareddau Ymchwil a Chynllunio
Gallai gwahanol grwpiau/parau o fyfyrwyr wneud y canlynol cyn rhoi adborth wedyn i'r dosbarth llawn.
- Cynllunio'r daith; darganfod y dull gorau o deithio.
- Ymchwilio i'r llety.
- Creu rhestr fer o atyniadau eraill y gellid ymweld â nhw o fewn yr amser.
Bydd angen i'r athro wneud y canlynol.
a. Cysylltu â'r AS lleol (mae'r rhan fwyaf yn gallu trefnu taith o gwmpas Tŷ'r Cyffredin).
b. Trafod rhestr fer o bum cwestiwn yn ymwneud ä gwleidyddiaeth a materion gwleidyddol y byddai'r myfyrwyr yn dymuno clywed barn eu haelod seneddol/ tywysydd arnynt.
c. Trefniadau Iechyd a Diogelwch.
ch. Llythyrau Caniatâd.
2. Awgrymiadau am weithgareddau wedi'r ymweliad
a. Trafodaeth grŵp/sesiwn adrodd yn ôl. Beth a ddysgwyd?b. Cyflwyniadau yn ymwneud â'r daith neu agweddau ohoni.
c. Creu adroddiad ysgrifenedig/ffilm daith/taflen yn ymwneud â'r daith, neu agweddau ohoni.