Astudiaeth achos: Coleg Glannau Dyfrdwy

Ymwybyddiaeth Wleidyddol

Cydrannau CBC

CEB
Elfen 1, Materion allweddol 1 a 2
Elfen 2, Mater allweddol 1
Elfen 3, Mater allweddol 2

ABCh
Elfen 3, Mater allweddol 1
[Gellid cwmpasu Elfennau a Materion allweddol ABCh eraill yn y cwestiynau a ofynnir i Aelodau'r Cynulliad.]

Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
Cyfathrebu C2.1; C3.1
GE GE2.1, 2, 3; GE3.1, 2, 3
[Potensial ar gyfer TGC.]

Disgrifiad o'r gweithgareddau


Cyfres o bedair sesiwn lle bu'r myfyrwyr yn ymchwilio i bolisïau'r pedair prif blaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn ffurfio pedwar grŵp gwleidyddol i baratoi ar gyfer cyfarfodydd ffug etholiad, a chymryd rhan mewn digwyddiad 'Hawl i Holi' go iawn yn cynnwys ACau lleol.

Paratoi
Cyn y gyfres o bedair sesiwn, roedd y myfyrwyr wedi cynhyrchu cwestiynau o flaen llaw a'u hanfon at ACau lleol a wahoddwyd i'r coleg i ymddangos mewn cyfarfod 'Hawl i Holi'.

Sesiwn 1
Aeth y myfyrwyr i'r afael â gweithgareddau a gynyddodd eu hymwybyddiaeth o'r prif bleidiau gwleidyddol. Gan weithio mewn grwpiau, aeth pob grŵp ati i ymchwilio i blaid a nodi ei maniffesto. Ar ddiwedd y sesiwn, cyflwynodd pob grŵp faniffesto'r blaid roeddynt yn ei hymchwilio a chynhaliwyd pleidlais yn y dosbarth.

Sesiwn 2
Gweithdy wedi'i gyflwyno gan Swyddog Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint ar sut mae'r Cynulliad yn gweithio a phatrwm pleidleisio. Rhannwyd y myfyrwyr yn grwpiau i greu eu pleidiau gwleidyddol eu hunain a chawsant gardiau procio i'w helpu i ffurfio syniadau ar gyfer creu maniffesto a neges ymgyrch.

Sesiwn 3
Paratoi ar gyfer cyfarfodydd lle byddai gan bob plaid ddeng munud i gyflwyno maniffesto eu plaid.

Sesiwn 4
Trefnwyd y sesiwn yma'n ddwy ran: yn gyntaf, y digwyddiad 'Hawl i Holi' lle gofynnodd y myfyrwyr gwestiynau i ACau lleol o'r pedair prif blaid; yn ail, ffurfiodd yr ACau, staff a myfyrwyr gynulleidfa bleidleisio ar gyfer y cyfarfodydd etholiad. Defnyddiodd pob plaid gyflwyniad PowerPoint a chymhorthion gweledol eraill. Cafwyd cwestiynau o'r llawr a chynhaliwyd pleidlais ar y diwedd, gyda'r 'swyddog etholiad' yn cyhoeddi nifer y pleidleisiau.

Nodiadau ymarferol

Cynllunio
Sawl wythnos i drefnu'r sesiwn 'Hawl i Holi; amser i e-bostio a ffonio, a chyfarfod cynllunio 45 munud yn y coleg gyda'r Swyddog Cynulliad, sawl wythnos cyn sesiwn dau.

Amserlen
4 wythnos i gyflwyno: sesiynau 1-3 yn 1.5 awr o hyd; sesiwn 4 yn 2 awr o hyd, gydag egwyl 15 munud i fyfyrwyr a gwleidyddion ddod at ei gilydd dros goffi.

Adnoddau

  • Swyddog Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Pleidiau Gwleidyddol: Ceidwadwyr Cymreig, Llafur Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru
Termau a Amodau