- English
- |
- Cymraeg
Astudiaeth achos: Coleg Glan Hafren
Y Gymuned Fyd-Eang
Cydrannau CBC
CEB Elfen 1, Materion allweddol 1 a 2
Elfen 2, Mater allweddol 1
Elfen 4, Mater allweddol 2
ABCh
Elfen 1, Mater allweddol 3
Elfen 3, Mater allweddol 2
Elfen 4, Mater allweddol 3
Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
Cyfathrebu, TGC, CRh
Disgrifiad or gweithgareddau
Mae'r 'modiwl' yma'n cynnwys cyfres o dasgau'n ymwneud â thema'r Gymuned Fyd-Eang. Ysgrifennir y tasgau fel cyfres o daflenni gwaith/canllawiau aseiniad ar gyfer y myfyrwyr. Mae modd i bob tasg sefyll yn annibynnol neu gellir cyflwyno unrhyw nifer mewn unrhyw drefn, fel y bo'n addas i'r ganolfan.
Nod y modiwl yw:
- cymell diddordeb y myfyrwyr yn y gymuned leol a'r gymuned ehangach;
- eu hannog i weld cyfatebiaethau,
- sylwi ar debygrwydd ac archwilio gwahaniaethau rhwng eu bywydau nhw a bywydau pobl mewn gwahanol rannau o'r byd;
- datblygu eu sgiliau ymchwilio annibynnol;
- eu hannog i ddatblygu eu safbwyntiau eu hunain ar 'faterion byd-eang'.
UNED 1: TAFLEN WAITH Y MYFYRIWR
Cyfathrebu a Chymunedau Byd-eang
Eich tasg gyntaf yw archwilio: Mae gofyn i chi ymchwilio agweddau amrywiol o wlad arall. Cewch ddewis unrhyw wlad a ddymunwch gyda dim ond UN cyfyngiad - rhaid iddi fod yn wlad nad ydych chi erioed wedi clywed amdani cyn heddiw!
Rydych chi'n mynd i ddarganfod y mathau canlynol o wybodaeth:
a. ei maint a'i lleoliad - hwyrach y bydd angen map arnoch
b. ei baner a'i hiaith
c. ei phrifddinas, prif afonydd ac unrhyw nodweddion neilltuol eraill
ch. y math o lywodraeth sydd ganddi ac enw ei Phrif Weinidog / Rheolwr
d. ei phoblogaeth a'i Chynnyrch Gwladol Crynswth
dd. ei phrif ffynonellau masnach/cyfoeth
e. unrhyw beth arall yr ystyriwch chi sy'n ddiddorol/pwysig yn ei chylch.
I orffen, mae angen i chi greu cymariaethau rhwng y wlad a ddewisoch chi â Chymru. Er enghraifft - mewn perthynas â'i maint, poblogaeth, disgwyliad oes, math o lywodraeth.
Pan fyddwch chi wedi casglu'r wybodaeth, paratowch gyflwyniad PowerPoint byr i weddill y dosbarth. Bydd angen i hwn fod tua 10 munud o hyd.
Tua 6 gwers (2 awr yr un) + gwaith cartref.
Bydd dwy wers yn cael eu neilltuo ar gyfer ymchwilio.
Bydd Gwers 3 yn cael ei defnyddio i'ch atgoffa sut i ddefnyddio PowerPoint (gyda chefnogaeth TGC).
Erbyn gwers 4 bydd angen i chi fod wedi creu eich cyflwyniad PowerPoint. Caiff ei wylio a chewch gyngor ar sut i addasu/newid os oes angen.
Paratoadau ar gyfer y cyflwyniadau fydd gwers 5 (gydag argymhellion a chyngor defnyddiol).
Gwers 6 - cyflwyniadau.
DS
Os nad ydych chi eisoes wedi cwblhau eich tasg ysgrifennu (SA Cyfathrebu) gallwch ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd gennych i greu taflen neu erthygl papur newydd am y wlad a ddewisoch chi.
UNED 2: TAFLEN WAITH Y MYFYRIWR
Cyfrifoldebau'r unigolyn i hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang
Dewiswch un o'r elusennau/sefydliadau canlynol: rhaid i chi gytuno ar hyn am fy mod i eisiau i bob un ohonoch ddewis un gwahanol - er y gallwch chi weithio mewn parau os dymunwch.
OXFAM
GREENPEACE
ITDG (INTERMEDIATE TECHNOLOGY DEVELOPMENT GROUP)
GVEP (GLOBAL VILLAGE ENERGY PROJECT)
Y GRONFA NATUR FYD-EANG (WWF)
MASNACHU TEG
CYFEILLION Y DDAEAR
AMNEST RHYNGWLADOL
PAGEANT.ORG.UK
WATERAID
Y CYNGOR FFOADURIAID
MEDECINS SANS FRONTIERES
FARM AFRICA
WAR ON WANT
CRUSAID
Ceisiwch ddod o hyd i gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi am y sefydliad o'ch dewis. Beth mae'n ei wneud? Yn lle? Pam? Pryd cafodd ei sefydlu? A yw'n codi arian i bwrpas penodol neu a yw'n sefydliad i 'gynyddu ymwybyddiaeth'? Byddai gwefan y sefydliad yn fan da i gychwyn - ond edrychwch i weld a allwch chi ddarganfod beth mae eraill yn ei feddwl ohonyn nhw - drwy erthyglau papur newydd efallai(drwy'r we) - neu gallwch ofyn i bobl yn y Coleg beth maen nhw'n ei wybod am y sefydliad. Mae rhai o'r sefydliadau hyn yn adnabyddus ond nid pob un. Pam hynny, yn eich barn chi? Ceisiwch ddod â'ch gwybodaeth gyda chi i'n gwers nesaf.
UNED 2: NODIADAU ATHRO
Disgrifiad o'r gweithgareddau
Cyfres o 4 gwers lle mae'r myfyrwyr yn edrych ar waith sefydliadau sy'n gweithio o fewn y gymuned fyd-eang; trafodwch ddilysrwydd y gwaith a wnaed ac archwiliwch eu hymateb nhw iddo. Mae'r dasg hon hefyd yn cynnwys CEB Elfen 1, Mater allweddol 2.
Nod
Nod y dasg hon yw cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r gwaith a wneir gan elusennau/sefydliadau sy'n gweithredu ar raddfa fyd-eang a'u hannog i drafod/cwestiynu'r cymhellion sy'n sail i waith y sefydliadau a meddwl a ydynt (ar lefel fwy personol) yn teimlo fod cyfrifoldeb arnynt i helpu pobl eraill. Unwaith y byddant wedi casglu eu gwybodaeth a'i chyflwyno i'r dosbarth, y cam nesaf yw cynnal trafodaethau grŵp (SA Cyfathrebu).1
Gwers 1:
Dosbarthu taflen waith ac egluro ac archwilio'r dasg. Yna, y myfyrwyr i dreulio gweddill y wers (a gwaith cartref) yn ymchwilio i'r elusen/sefydliad o'u dewis.
Gwers 2:
Trafodaeth i'r dosbarth cyfan (yn cael ei llywio gan yr athro) ar waith yr elusennau/sefydliadau. Dyma gyfle i gyfnewid gwybodaeth a thrafod defnyddioldeb/dilysrwydd/atyniad y sefydliad. Mae'n baratoad ar gyfer eu trafodaeth grŵp Cyfathrebu, a fydd yn seiliedig ar:A oes cyfrifoldeb ar bobl sy'n gallu helpu eu hunain i helpu pobl sy'n methu â gwneud hynny?
Gwers 3
Dylai myfyrwyr gael cyfle i drafod eu syniadau gyda'r athro, ymarfer eu trafodaethau grŵp ac ymchwilio unrhyw ddeunydd ychwanegol y teimlant sy'n dal i fod ei angen arnynt.
Gwers 4:
Trafodaethau grŵp. Gellir recordio'r rhain os oes angen tystiolaeth.
Noder: Mae sefydliadau fel Amnest Rhyngwladol yn eithriadol o dda am ddarparu siaradwyr, a allai ychwanegu dimensiwn arall i ddysgu'r myfyrwyr.
UNED 3: NODIADAU ATHRO
Hawliau Dynol
Er bod y rhan hon yn seiliedig yn bennaf ar ABCh Elfen 3, Mater allweddol 2, gall y pwnc yma gwmpasu sawl elfen arall, yn dibynnu ar ble mae'r pwyslais.
CEB E1 Ma1
CEB E1 Ma2
CEB E2 Ma1
CEB E4 Ma2
Gwers 1:
Dylid cyflwyno'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol i'r myfyrwyr. Gallwch ddod o hyd i gopi syml o hwn ar www.un.org/rights. Gallai hwn fod yn sail i drafodaeth ddosbarth (grŵp bychan) gan ddefnyddio'r mathau canlynol o gwestiynau.
1. Pa rai fyddech chi'n eu hystyried yn fwyaf pwysig?
2. Pa rai sy'n effeithio arnoch chi'n bersonol?
3. Pam y credwch chi fod angen datganiad o'r fath?
4. Ydych chi'n credu fod/y dylai pob gwlad/llywodraeth gydymffurfio â nhw?
5. Pe bai raid i chi ychwanegu 5 arall, beth fyddech chi'n ei ychwanegu? Pam?
6. Lluniwch restr o 10 hawl y credwch chi y dylai pawb yn eich ysgol/coleg eu cael. Bydd angen i chi eu cyfiawnhau.
Gwers 2:
Gan weithio mewn parau, gallai myfyrwyr ymchwilio/archwilio'r gwaith a wnaed gan sefydliadau fel y canlynol. (Mae llawer o'r rhain, fel y bydd chwilio ar Google yn ei ddangos).
www.hrw.org
www.liberty-human-rights.org.uk
www.yourrights.org.uk
www.cartercenter.org
Gellid defnyddio eu hymchwil fel sail i drafodaeth bellach, neu fel sail i waith Cyfathrebu (darllen, ysgrifennu, cyflwyno a thrafodaeth grŵp) neu ar gyfer TGC (ymchwil, e-bostio, dylunio taflenni, PowerPoint).
Gwaith pellach
Gellid ymestyn yr uned hon trwy ddefnyddio siaradwyr allanol (er enghraifft o Amnest Rhyngwladol, Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Cyfle Cyfartal, neu geisiwr lloches).