- English
- |
- Cymraeg
Canolfan y Dechnoleg Amgen
Eco-safle yw'r CDA sy'n dangos i chi sut y gall cynaliadwyedd weithio. Ar ei safle saith erw ceir arddangosfeydd rhyngweithiol am bŵer y gwynt, dŵr a'r haul, cadwraeth egni, ailgylchu, tyfu organig, cynllunio adeiladau a chludiant.
Maent yn croesawu ymweliadau gan ysgolion a cholegau. Gellir teilwra teithiau a darlithiau i gydfynd ag anghenion grwpiau unigol. Mae llety ar gael i grwpiau mewn eco-gabanau.
Mae gan staff addysg y CDA brofiad o ddysgu ar bob lefel. Maent yn cynnig amrediad eang o bynciau cynaliadwyedd. Mae teithiau tywysedig ar gael, cyflwyniadau ar egni adnewyddadwy, sesiynau holi ac ateb, gweithgareddau creu modelau adnewyddadwy a sesiynau olion traed ecolegol. Hefyd ar gael mae teithiau tywysedig, chwarae rôl, gweithdai drama a gemau cydweithredol.
Am wybodaeth bellach, ymwelwch â www.cat.org.uk
