Canolfan y Dechnoleg Amgen a'r Bac Cymreig

Julie Bromilow, Swyddog Addysg, Canolfan y Dechnoleg Amgen

Canolfan ymchwil a datblygu ar gyfer cynaladwyedd yng nghanolbarth prydferth Cymru yw’r Ganolfan Technoleg Amgen (CAT). Mae CAT yn arddangos sut i fyw’n fwy cynaliadwy, gydag enghreifftiau o wahanol ynni adnewyddadwy, eco-adeiladau, systemau trin dŵr a thyfu organig mewn safle sy’n llawn bioamrywiaeth. Mae Adran Addysg CAT wedi bod yn rhedeg rhaglenni addysg ar gyfer cynaladwyedd i gefnogi athrawon a myfyrwyr o bob oed ers sawl blwyddyn, ond bu’r cynnydd yn nifer yr ymweliadau gan fyfyrwyr CBC yn ddatblygiad cyffrous y flwyddyn academaidd hon

Mae gan CAT hanes gyda CBC sydd wedi’i hen sefydlu. Yn 2004/5 cynhyrchodd CAT y deunydd ar gyfer y Prosiect Un Byd gan I-Earn sy’n dal i gael ei ddefnyddio gan grwpiau CBC. Mae’n cynnwys gweithgaredd sy’n dangos sut mae eitemau bob dydd cyfarwydd yn cael effaith fyd-eang ehangach. Yn 2005, cynhyrchodd myfyrwyr o Goleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau a oedd yn gweithio ar eu modiwlau Cyfathrebu, ffilm ar ôl ymchwilio i ynni adnewyddadwy yn y Ganolfan a chyfweld ag un o’r Swyddogion Addysg.

Myfyrwyr o Goleg Gwent ar ymweliad a'r ganolfan

Myfyrwyr o Goleg Gwent yn ymweld â'r ganolfan

Mae myfyrwyr ac athrawon CBC wedi ymweld â CAT yn ddiweddar yn rhan o elfen Datblygiad Cynaliadwy ABCh, neu i gyd-fynd â modiwl Cymru, Ewrop a’r Byd. Mae’r myfyrwyr yn dod i wybod am achosion ac effeithiau problemau byd-eang mawr fel Newid Hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Wedyn maen nhw’n dysgu am yr atebion ar raddfa fyd-eang, genedlaethol a domestig mewn ffordd sy’n rhoi gwybod iddynt am y problemau ond sy’n eu grymuso â chamau gweithredu y gallant eu cymryd fel unigolion i leihau’r effaith ar y blaned.

Mae’r Adran Addysg yn CAT wedi datblygu nifer o weithdai y gall athrawon ddewis o’u plith, gan gwmpasu pynciau fel Newid Hinsawdd, Ynni Adnewyddadwy, ac Ôl Troedio Ecolegol, a phob un ohonynt yn archwilio i gynaladwyedd ar raddfa fyd-eang a lleol. Cewch eich argymell yn bendant i archebu taith dywys o gwmpas CAT yn rhan o’r ymweliad gan fod hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi enghreifftiau go iawn o fyw cynaliadwy. Beth am aros yn yr Eco-Gabanau i gael profiad uniongyrchol o fyw gyda chyflenwad trydan ynni adnewyddadwy'r cabanau eu hunain a’i fonitro?

Termau a Amodau