- English
- |
- Cymraeg
Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad i blant a phobl ifanc. Mae'’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan. Mae swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc. Mae tîm o staff yn bugeilio 300 o adrannau ac aelwydydd cymunedol. drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru i fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd. Mae’n croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
Cynhelir:
- clybiau wythnosol
- cystadlaethau
- chwaraeon
- teithiau tramor
- teithiau i’r gwersylloedd.
Yn y gwersylloedd, ceir nifer o fathau o weithgareddau, o hwylio, canwio a dringo yng Nglan-llyn, i wibgartio, sgïo a merlota yn Llangrannog, neu ymweliad â Stadiwm y Mileniwm neu’r theatr yng Nghaerdydd.
Mae'r mudiad yn trefnu gweithgareddau ar y maes chwarae ee rygbi, nofio, pêl-droed, gymnasteg, athletau. Darperir y cyfle i gystadlu yn erbyn plant a phobl ifanc ar hyd ac ar led Cymru. Mae e'n rhedeg clybiau wythnosol a chyrsiau chwaraeon.
Gwyl gystadleol fwyaf Ewrop yw Eisteddfod yr Urdd, sy'n cynnig cystadlaethau canu, dawnsio, actio, perfformio, celf a chrefft, barddoni.Mae cylchgronau ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg.
Mae'r Urdd wedi bod yn cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Plant Cymru i’r Byd ers 1925. Gall pobl ifanc fynd dramor gyda’r Urdd i wneud gwaith gwirfoddol, gan ddarganfod ddiwylliannau eraill a chyfarfod plant a phobl ifanc o wledydd ar draws y byd.