- English
- |
- Cymraeg
Astudiaeth achos: Ysgol Gyfun Plasmawr
Deall Gwleidyddiaeth
Cydrannau CBC
CEB
Elfen 1, Mater allweddol 1
ABCh
Elfen 3, Mater allweddol 1
Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
Cyfathrebu C3.1a; C3.1b; C3.2; C3.3
Nod
Creu dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymell diddordeb yn y broses wleidyddol (a phleidleisio pan ddaw cyfle!).
Gweithgareddau
Diwrnod 1
Cyflwyniadau gan amryw o aelodau o staff ar y pynciau: gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn sefydliadau gwleidyddol y DU - a sut mae'r pwerau yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban yn amrywio.
Diwrnod 2
- Sesiwn 'Holi ac Ateb' gyda chynrychiolwyr o'r pedair prif blaid (Ceidwadwyr, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru), gan gynnwys y cwestiwn 'Pam y dylai pobl ifanc bleidleisio?'
- Cyflwyniad gan gynrychiolydd o'r Comisiwn Etholiadol
- Trafodaeth grŵp ar brif bynciau'r dydd.
Gwaith ategol
(2 wythnos)- Ymchwilio i un pwnc (e.e. yr Ewro / hela)
- Darganfod safbwyntiau'r pleidiau gwleidyddol a'r dadleuon o blaid ac yn erbyn
- Llunio pamffled yn amlinellu'r prif safbwyntiau (y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y pleidiau) a chyflwyno gwerthusiad, i gynnwys eich barn bersonol chi eich hun.