- English
- |
- Cymraeg
Astudiaeth achos: Ysgol Sant Cyres
Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
Cydrannau CBC
ABCh Elfen 1, Mater allweddol 3 (Lefel Uwch)
Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
Cyfathrebu (lefel 3)
Nod
Cyflwyno'r cysyniadau o ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'r myfyrwyr.
Amcanion
Dylai myfyrwyr ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o:
- Hawliau a chyfrifoldebau rhyngwladol
- Effaith ar unigolion a chymunedau
- Bylchau rhwng rhai mythau a ffeithiau
Amser
Dwy sesiwn awr yr un. Er hynny, mae'r gweithgaredd yn hyblyg iawn.
Gweithgaredd
Sesiwn 1
Cyflwyniad arweiniol PowerPoint a thrafodaeth ar faterion yn ymwneud â ffoaduriaid i ddilyn. (Tua un awr)
Sesiwn 2
Gweithgaredd chwarae rol - Rheoli Ffiniau. Rhoir portreadau ysgrifenedig i 6 myfyriwr o unigolion sy'n ceisio lloches. Maen nhw'n astudio'r rhain ac yn chwarae rhan y person yn eu portread. Mae gweddill y grŵp yn actio rhan swyddogion mewnfudo neu aelodau o gymuned leol. Tra mae'r 'ceiswyr lloches' yn astudio eu portreadau, mae'r grwpiau eraill yn ffurfio cyfres o gwestiynau cyffredinol ar gyfer pob un ohonynt a rhestr o ffactorau sgorio pwyntiau. Unwaith y bydd rhan gyntaf y gweithgaredd wedi ei gwblhau, bydd y ceiswyr lloches yn cael clywed y penderfyniad a'r rhesymau drosto.
Adnoddau
Ceir gwybodaeth gyffredinol a deunydd er mwyn llunio portreadau o geiswyr lloches ar y we:
Guardian Unlimitied Special Report: Refugees in Britain
Thanet Refugee Acces: http://margate.pampaproduction.com/
Adnoddau dinasyddiaeth Activate on Line gan gwmni cyhoeddi Nelson Thornes:
http://www.nelsonthornes.com/secondary/citizenship/activate/o1_activity3.html
Cynhyrchir adnodd gweithgaredd tebyg ar reoli ffiniau gan Amnest Rhyngwladol ar:
http://www.amnesty.org.uk/education/refugeewk/roleplay.pdf
Sgil Allweddol a dargedir: Cyfathrebu ar Lefel 3
Gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a gellir cynhyrchu tystiolae
- Trafodaeth: Ar faterion yn ymwneud ä ffoaduriaid yn dilyn y cyflwyniad, neu faterion yn ymwneud ä cheiswyr lloches yn dilyn y chwarae rªl.
- Cyflwyniad: Gellid gosod tasg i fyfyrwyr gynhyrchu cyflwyniad PowerPoint ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gyflwyno'r pwnc.
- Darllen a chyfosod: myfyrwyr i gynhyrchu aseiniad ysgrifenedig a nodiadau i baratoi ar gyfer y gweithgaredd, neu o ganlyniad i'r gweithgaredd.
- Gallai myfyrwyr gynhyrchu adroddiad ysgrifenedig ar geiswyr lloches yng Nghymru (1,000 o eiriau) a chreu taflen sylweddol i'w defnyddio fel adnodd mewn gwersi ABCh i fyfyrwyr iau.