- English
- |
- Cymraeg
Astudiaeth achos: Coleg Glannau Dyfrdwy
Ailgylchu
Cydrannau CBC
CEB
Elfen 3, Materion allweddol 1 a 2
Elfen 1, Mater allweddol 1
Elfen 2, Mater allweddol 1
ABCh
Elfen 4, Materion allweddol 1 a 2
Elfen 1, Mater allweddol 3
Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
[Potensial ar gyfer Cyfathrebu, TGC, DP (os rhoddir prosiectau gwyrdd ar waith fel gweithgareddau ategol).]
Gweithgareddau
Gweithdy ar ailgylchu, gan gynnwys mewnbwn gan dri sefydliad, fel paratoad i ymweliad â'r Ganolfan Technoleg Amgen (CTA), Machynlleth. Roedd y gweithdy'n cynnwys cyflwyniad gan gwmni lleol, Castle Cement, i roi'r ddadl economaidd dros ailgylchu gwastraff i odynau tän er mwyn cynhyrchu sment; cyflwyniad gan gwmni lleol, Shotton Paper, i egluro sut y gallai ailgylchu fod yn gost-effeithiol a chynhyrchu papur o ansawdd, a gweithdy gan gynrychiolydd o'r Ganolfan Technoleg Amgen i ehangu ymwybyddiaeth o'r gwastraff a gynhyrchir gennym.
Agorwyd y gweithdy gan Swyddog Addysg Castle Cement a siaradodd yn gyntaf cyn ateb cwestiynau. Cyn hir, mae'r ffatri sment leol yn mynd i fod yn ailgylchu amrywiaeth eang o wastraff a fydd yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd i odyn newydd sydd ar fin cael ei chwblhau. Un o'r prif danwyddau fydd yn cael eu defnyddio yn yr odyn newydd fydd Cemfuel, sydd wedi ei ailgylchu o wastraff o'r diwydiant paent. Bydd y tanwydd yma a ailgylchwyd hefyd yn lleihau'r angen i ddefnyddio glo a golosg yn danwydd i'r odyn.
Yn ail, cafwyd cyflwyniad gan Swyddog Addysg Shotton Paper, cwmni cynhyrchu papur lleol sy'n defnyddio ailgylchu 100% er mwyn cynhyrchu ei bapur. Y rhiant-gwmni yw UPM, Cwmni Sgandinafaidd gyda hanes rhagorol o weithredu polisi cynaliadwyedd. Mae'n gweithredu cylchred cynhyrchu dolennog i gynhyrchu papur mewn dull ecolegol gyfrifol. Mae gan UPM ardystiad fforestydd ac mae'n defnyddio coed o goedwigoedd a reolwyd yn gynaliadwy yn ei ffatrïoedd eraill. Rhoddodd y siaradwr gyflwyniad PowerPoint a dangosodd fideo am agwedd y cwmni tuag at gynaliadwyedd, a chafwyd trafodaeth â'r myfyrwyr i ddilyn. Mynegodd y myfyrwyr ddiddordeb mawr yn y dulliau ymarferol roedd UPM yn eu defnyddio i fynd i'r afael â chynaliadwyedd ac fe wnaethon nhw ddysgu llawer mewn cwta hanner awr.
Cynyddodd y siaradwr hwn ymwybyddiaeth y myfyrwyr ynghylch ailgylchu a chynaliadwyedd, a phrofodd hyn yn ddefnyddiol ar gyfer trydedd ran y sesiwn.
Fe wnaeth y trydydd i siarad, o'r Ganolfan Technoleg Amgen, gysylltu ei gweithdy â rhai o'r negeseuon a gynhwyswyd yn yr ail sgwrs, fel roedd hi'n ei gweld hi. Defnyddiodd weithdy gyda gweithgaredd efelychu i gyfleu neges ailgylchu i'r grŵp. Trefnodd y myfyrwyr yn grwpiau gan osod tasg iddyn nhw'n defnyddio cardiau er mwyn dangos oes bar o siocled (Wy Kinder), o'r ffatri i'r siop. Cafwyd adborth gan bob grŵp a chymharwyd eu fersiynau. Cafwyd nifer o negeseuon pwysig yn sgil y gweithgaredd hwn a bu o gymorth i baratoi'r myfyrwyr ar gyfer eu hymweliad â'r Ganolfan Technoleg Amgen yn y sesiwn ganlynol.
Sesiynau ategol
Y Ganolfan Technoleg Amgen, Machynlleth
Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith addysgol o gwmpas y ganolfan lle gallai myfyrwyr weld dulliau amgen o ymdrin â gwastraff a chynhyrchu tanwydd ac arbed ynni.
Trafodaeth ynghylch Cynhesu Byd-Eang
BuÕr myfyrwyr yn gwylio rhaglen - 'The End of the World as we know it', a gyflwynwyd gan Paul Theroux - ar fater cynhesu byd-eang. Canolbwyntiai'r rhaglen ar effeithiau cynhesu byd-eang ar Gyfandir Gogledd America. Rhoddwyd taflenni procio a chwestiynau i'r myfyrwyr eu defnyddio wrth wylio'r fideo a gäi ei stopio ar sawl pwynt i roi cyfle i gwestiynu, trafod ac egluro.
Nodiadau ymarferol
Cynllunio
Cysylltu â'r tri sefydliad drwy ffonio ac e-bostio ar gyfer sesiwn un a dyfeisio rhaglen - tua 3 awr.
Trefnu taith bws i'r Ganolfan Technoleg Amgen - 1 awr.
Amserlen
Sesiwn Un: 1.5 awr
Taith CTA 9.00am - 4.00pm
Adnoddau
ailgylchu dros Gymru www.craffamwastraff.org.uk