Astudiaeth achos: Ysgol Cardinal Newman

Ein Cymuned

Cydran CBC
ABCh
Elfen 1, Mater allweddol 3

Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
Cyfathrebu

Gweithgaredd

Sesiwn 1
Cyfathrebu C2.1a a C2.1b
[Dylech wneud y gwaith yma fel aelod o grŵp. Trafodwch y cwestiynau canlynol o fewn eich grŵp. Dylai athro oruchwylio'r drafodaeth hon er mwyn ennill y sgiliau Cyfathrebu y manylir arnynt uchod.]

  • Diffiniwch y term 'cymuned'.
  • Beth yw prif nodweddion eich cymuned yn yr ysgol?
  • A yw eich cymuned gartref yn wahanol mewn unrhyw fodd? Sut mae'n wahanol? [Cadwch y nodiadau a wnaethoch yn y sesiwn hon fel tystiolaeth o'ch gwaith. Nodwch enw ac awdur unrhyw lyfrau a ddefnyddiwch.]

Sesiynau 2 a 3
Lluniwch holiadur neu gwestiynau cyfweld i ddarganfod cefndiroedd/nodweddion cymunedau.

Gwahoddir pobl i mewn i'r ysgol i ateb eich cwestiynau.

Dylech hefyd ddosbarthu'r holiadur hwn i bobl rydych yn eu nabod sydd o gefndir gwahanol i chi.

Sesiwn 4
Sgyrsiau gan siaradwyr gwadd a chyfle i holi.

Sesiynau 5 A 6
Cyflwynwch eich canfyddiadau i'r grŵp.

Gwnewch yn siwr fod gennych ryw ffurf o dystiolaeth o hyn, e.e. datganiad tyst gan athro.

Termau a Amodau