Astudiaeth achos: Coleg Glannau Dyfrdwy

Trais yn y cartref: lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Cydrannau CBC

CEB
Elfen 2, Mater allweddol 1
Elfen 1, Mater allweddol 1
ABCh
Elfen 1, Mater allweddol 1
Elfen 2, Mater allweddol 3
Elfen 3, Mater allweddol 2

Cyfleoedd Sgiliau Allweddol Cyfathrebu
[Potensial ar gyfer TGC.]

Gweithgareddau

Sesiwn 1
Cyflwynwyd pwnc trais yn y cartref i'r myfyrwyr trwy gyfrwng cwis tîm cystadleuol a brofai eu gwybodaeth a'u canfyddiadau presennol. Dyfeisiwyd y cwestiynau gan staff yn defnyddio ystadegau o astudiaethau ymchwil y Swyddfa Gartref, sydd ar gael am ddim o www.homeoffice.gov.uk, a'r llyfr gan Jayne Mooney - Gender, Violence and the Social Order (ISBN 0-333-91886-X.)

Creodd yr elfen gystadleuol fwy o ddiddordeb yn yr ystadegau a fu'n ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth i'r drafodaeth grŵp a ddaeth wedyn.

Sesiwn 2
Cafwyd cyflwyniad/gweithdy gan siaradwraig o Amnest Rhyngwladol ar drais yn y cartref ac eglurodd y gwahanol fathau o drais yn y cartref. Gweithiodd y myfyrwyr mewn grwpiau a gwahanol sefyllfaoedd dychmygol ganddynt, pob un yn gysylltiedig â math gwahanol o drais yn y cartref. Defnyddiodd gardiau gyda'r grwpiau i gymell eu hymateb i'r mathau o eiriau a gweithredoedd mae pobl sy'n cam-drin yn eu defnyddio.

Edrychwyd hefyd ar ymgyrch Cachez a lansiwyd gan Amnesty ar wefan Amnest Rhyngwladol. Ymgyrch yw hon i gynyddu ymwybyddiaeth am ganfyddiadau'r cyhoedd am drais yn y cartref a'r modd y mae cymdeithas yn aml yn ei anwybyddu fel tabŵ. Rhannodd y grwpiau eu canfyddiadau a'u barn mewn trafodaeth ddosbarth llawn. (Yn y sesiwn yma y flwyddyn flaenorol, cyflwynwyd gweithdy gan drefnwyr lloches leol i fenywod ynghylch problemau lleol.)

Sesiwn 3
Cyflwynodd plismon lleol, sy'n gyswllt cymunedol 'r coleg, weithdy dwy awr o hyd. Disgrifiodd yr amgylchiadau arferol a fyddai'n arwain at ymwneud â'r heddlu, a dangosodd ffurflenni y byddai swyddogion yr heddlu'n eu llenwi mewn achosion o'r fath.

Trwy ddefnyddio chwarae rôl, eglurodd rai o'r heriau sy'n wynebu'r heddlu wrth ymwneud ag achosion o drais yn y cartref. Hefyd trafodwyd y ffaith fod rhai dioddefwyr yn aml yn gwrthod erlyn troseddwyr a disgrifiodd y ffyrdd y mae'r heddlu'n ceisio cymryd datganiadau yn y fan a'r lle. Mewn grwpiau, rhoddwyd sefyllfaoedd dychmygol i'r myfyrwyr a gofynnwyd iddynt awgrymu beth y byddai'r heddlu'n ei wneud mewn sefyllfaoedd o'r fath.

Mynegodd y myfyrwyr ddiddordeb arbennig yn yr astudiaethau achos a'r dimensiwn lleol i'r sesiwn. Fe'u trawyd yn arbennig gan y materion sy'n wynebu dioddefwyr wrth ystyried a ddylent adrodd am droseddau yn eu herbyn ai peidio.

Sesiwn 4
Cynlluniwyd y sesiwn hon i roi gwybodaeth i'r myfyrwyr am broblem trais yn y cartref yn y byd ehangach, er na chyfyngwyd y sesiwn i drais yn y cartref yn unig. Defnyddiwyd erthygl o atodiad papur y Guardian 31/3/03 fel ffynhonnell wybodaeth gan ei bod yn canolbwyntio ar ganfyddiadau llyfr ar fywydau menywod drwy'r byd - The Atlas of Women, gan Joni Seager (Women's Press).

Copïwyd yr erthygl i'r myfyrwyr ei darllen fel sail i drafodaeth. Cyfrannodd aelodau o staff i'r drafodaeth gyda phrofiadau personol o fyw yn Saudi Arabia, a hefyd o weithio mewn cymuned amlddiwylliannol, lle'r oedd materion fel lleoliadau gwaith i ferched yn creu problemau na fyddai'n rhaid i'n myfyrwyr ni eu hystyried.

Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys y peryglon posib i fenywod heb eu goruchwylio mewn rhai diwylliannau lle credir bod menywod angen eu diogelu rhag dynion. Mae ein myfyrwyr ni'n byw mewn amgylchedd lled-wledig, neu mewn tref fechan, neu yn ninas fechan Caer, a theimlent fod y sesiwn wedi ehangu eu dealltwriaeth o werthoedd diwylliannol sy'n wahanol i'w rhai nhw.

(Gallai cyflwyniadau i grwpiau myfyrwyr, ac erthyglau ysgrifenedig, roi tystiolaeth bellach ar gyfer Sgil Allweddol Cyfathrebu).

Nodiadau ymarferol

Cynllunio
Galwadau ffôn - tua 2 awr i gyd
Paratoi deunyddiau mewnol: 4-5 awr
Cynllunio hirdymor - 2 fis o flaen llaw

Amserlen
Pob sesiwn - 1.5 awr

Termau a Amodau