- English
- |
- Cymraeg
Ysgol y Preseli
Croeso i Japan
Fel rhan o Wythnos Ieithoedd Modern Ysgol y Preseli 2006, cymerodd tua 30 myfyriwr ran yn ddiweddar mewn wythnos o Japanaeg. Roedd yn rhan o gwrs Bagloriaeth Cymru sy’n cael ei redeg gan yr ysgol.
Doedd gan y disgyblion o flwyddyn 12 ddim gwybodaeth am yr iaith cyn iddynt gael eu cyflwyno i ddiwylliant a ffordd o fyw Japan, sut i’w cyflwyno eu hunain, sut i gyfrif, a siarad am yr ysgol a’u diddordebau. Uchafbwynt yr wythnos oedd perfformiad gan ddefnyddio cerddoriaeth draddodiadol Japan - taiko – a’r myfyrwyr yn gwisgo i fyny yn nillad traddodiadol Japan.
'Roedd hon yn wythnos hwyliog ryfeddol i’r athro a’r disgyblion,’ meddai Anna Jones. ‘Buon nhw hyd yn oed yn dysgu bwyta â chopsticks!’ Creodd y safon a gyrhaeddodd y myfyrwyr ar ôl ugain awr o wersi’n unig argraff ffafriol iawn ar yr athrawon.
Mae Anna Jones yn Gynorthwyydd Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol y Preseli ac mae’n gweithio gyda myfyrwyr Sbaeneg TGAU, Safon UG ac Uwch. Mae wedi byw a gweithio yn Japan a hi oedd yn gyfrifol am sefydlu a chyflwyno’r iaith Japanaeg ar gyfer wythnos Bagloriaeth Cymru. Mae hi ar gael i ymgynghori â’r ysgolion a’r colegau hynny sydd â diddordeb mewn cyflwyno’r iaith Japanaeg ym Modiwl Iaith Bagloriaeth Cymru.