Astudiaeth achos: Ysgol Plasmawr

Wythnos Iaith

Integreiddio'r Modiwl Iaith ag agweddau o'r gweithgaredd Menter Tîm.

Cydrannau CBC
Modiwl Iaith
+ agweddau o'r gweithgaredd Menter Tîm

Cyfleoedd Sgiliau Allweddol
GE, DP (lefel 2 neu 3)

Nod


Galluogi myfyrwyr i gymryd rhan lawn yn Wythnos Iaith yr Ysgol.

Gweithgaredd


Pedwar diwrnod o wersi iaith dwys mewn Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg gan aelodau o staff.
Rhannwyd y myfyrwyr yn dri grwҐp yn ªl iaith.
(Rhannwyd grwpiau mawr yn grwpiau llai wedyn.)

Wythnos cyn y Modiwl, bu'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth am y trefniadau ar gyfer yr Wythnos Ryngwladol, a gofynion y gweithgaredd Menter. Roedd y syniadau a drafodwyd yn cynnwys stondin / arddangosiad / cän / sioe.

Cam 1


Yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad, rhaid oedd i'r grwpiau ystyried yr amrywiaeth o ddewisiadau a phenderfynu ar y gweithgaredd i'w roi ar waith dros yr Wythnos Iaith.
[Byddai trefnu stondin i werthu cynnyrch neu ddarparu gwasanaeth yn cyfrannu tuag at y cymhwyster Menter.] Golygai hyn wneud y canlynol:

  • Amlinellu'r rhesymau dros ac yn erbyn amrywiol syniadau.
  • Gosod targedau ar gyfer pob dewis (e.e. siop - gwerthu 50 cacen).
  • Penderfynu ar y gweithgaredd ac ystyried y ffactorau fydd yn effeithio ar y gweithgaredd (e.e. lleoliad, adnoddau, sgiliau, amser). [Elfennau o DP.]
  • Amlinellu cyfrifoldebau pob aelod o'r grwҐp - gan roi rhesymau dros y penderfyniad.
  • Pob unigolyn i sicrhau ei fod yn deall gofynion ei waith. [Elfennau o GE.]
  • Trafod gydag aelod o staff neu ymgynghorydd i sicrhau fod y dasg yn bosib ac yn addas.
  • Pob unigolyn i lunio cynllun gwaith personol yn manylu ar beth mae'n mynd iwneud, pryd, sut, a threfniadau ar gyfer cyfarfod nesaf y grwҐp.
  • Bwrw ati gyda'r trefniadau cyn yr Wythnos Iaith (e.e. archebu, ymchwil) [Elfennau o DP a GE.]

N.B. Rhaid cadw cofnodion o bob cyfarfod grwҐp a chyfarfodydd ä staff / ymgynghorwyr, gan fanylu ar bob penderfyniad a wnaed.

Cam 2


Yn ystod yr Wythnos Iaith

Ґ Rhoi'r gweithgaredd a gynlluniwyd ar y gweill, gan ddefnyddio'r iaith a ddysgwyd gymaint ä phosib ä chyd-fyfyrwyr, aelodau o staff ac ymwelwyr.

  • Addasu a datblygu'r cynllun fel y bo angen, gan ymgynghori ag aelodau'r grwҐp / staff.
  • Gwneud nodiadau o bob trafodaeth.
  • Casglu cymaint o dystiolaeth ag sy'n bosib (ee ffotograffau, recordiadau täp).

Cam 3


Gwerthusiad

GE - Beth oedd cryfderau a gwendidau'r gweithgaredd a'r grwҐp, a'ch cyfraniad personol chi?
Pa agweddau y gellid eu gwella?
DP - A weithiodd y broses datrys problemau? Sut mae eich dealltwriaeth o ddatrys problemau wedi gwella?

Termau a Amodau