Astudiaeth achos: Coleg Abertawe

Hunanastudio gyda chefnogaeth

Un ffordd o fodloni gofynion Modiwl Iaith CBC.

Oherwydd yr amrywiaeth fawr o ran lefel a diddordebau ymhlith ein myfyrwyr, cyflwynwyd y modiwl iaith drwy gyfrwng gweithdy'n defnyddio www.bbc.co.uk/languages.

  • Roedd y myfyrwyr yn cael dewis pa iaith y dymunent ei hastudio (parhau ag un a astudiwyd yn barod neu ddechrau un newydd).
  • Gallent asesu eu lefel mynediad yn ôl y mesurydd iaith a ddarperir ar y wefan.
  • Ar ôl astudio uned, cynigir amrywiaeth o weithgareddau (ymarferion geirfa, gramadeg, chwarae rôl).
  • Yna bydd y myfyrwyr yn cadw cofnod o'r unedau maen nhw wedi gweithio arnynnhw a'r amser a dreuliwyd.

Dewis arall fyddai defnyddio'r wefan www.dysgu.cd sydd eto'n wefan ragorol ar gyfer hunanastudio.

Dewis pellach (a ddarganfuwyd er heb ei phrofi eto) yw http://multikultura.org.uk/. Mae fel petai'n cynnig deunydd sy'n fwy o her.

Termau a Amodau