- English
- |
- Cymraeg
Ysgol Gymunedol y Porth
Pat Davey
1.Cefndir
Ysgol gymunedol 11-18 yng nghwm Rhondda yw ysgol y Porth. Dros y ddwy flynedd y bu’r ysgol yn ganolfan peilot CBC, mabwysiadwyd dau ddull gwahanol iawn o gyflwyno’r modiwl iaith.
Fel pennaeth Ieithoedd Tramor Modern, roeddwn wrth fy modd ag agwedd gadarnhaol tîm Bac Cymru tuag at y cyfleoedd y mae’r modiwl iaith yn eu cynnig.
2. Dull cyflwyno’r Modiwl Iaith
BLWYDDYN UN 2003-2004
Roedd tua deugain o fyfyrwyr wedi cymryd Sbaeneg naill ai hyd at TGAU neu’r tu hwnt i hynny mewn blwyddyn o ryw 270 myfyriwr. Felly teimlid y byddai peth amharodrwydd i ddechrau eto ar bwnc roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi’i adael ddwy flynedd ynghynt. O gofio hyn, roedd angen i’r dull fod yn arloesol ac yn gyffrous. Awgrymwyd y dylai’r mewnbwn iaith gael ei gyflwyno’n rhannol yn y dosbarth, yn rhannol yn Unilang ym Mhrifysgol Morgannwg i baratoi at ymweliad pum niwrnod â Zarautz, Sbaen. I unrhyw un sy’n anghyfarwydd â chyfleuster Unilang, ystafelloedd o gyfrifiaduron ydyw sydd ag amrediad o weithgareddau rhyngweithiol mewn nifer o ieithoedd gwahanol. Gall myfyrwyr weithio yn eu pwysau eu hunain ac ar lefel sy’n briodol i’w cymhwysedd. Mae clustffonau a meicroffonau’n galluogi myfyrwyr i gael ymarfer llafar a gwrando yn ogystal â darllen ac ysgrifennu.
Rhannwyd y myfyrwyr yn bedwar grŵp, a chafodd pob grŵp dair neu bedair sesiwn yn Unilang, a dwy sesiwn ystafell ddosbarth, un yn gyflwyniad ac un i baratoi’n derfynol at yr ymweliad â Sbaen.
Darparodd Unilang diwtor a oedd yn trafod pwyntiau iaith penodol â grwpiau bychain o fyfyrwyr. Penderfynwyd cwmpasu rhai pynciau ‘goroesi’, fel prynu bwyd neu ofyn am gyfarwyddiadau, a oedd yn benthyg eu hunain i waith llafar a gwrando, a pheth gwybodaeth bersonol, a oedd yn rhoi cyfle i ysgrifennu estynedig.
Gan fod bore dydd Mercher i gyd wedi’i amserlennu ar gyfer CBC, roedd y trefniadau ymarferol yn syml iawn. Byddai’r myfyrwyr yn mynd ar fws i Brifysgol Morgannwg, ac yn cael eu dychwelyd i’r ysgol erbyn amser cinio ar ôl rhyw ddwy awr o waith iaith. Byddai’r myfyrwyr yn cofnodi’r math o dasg roeddynt wedi gweithio arni ac yn cael llofnod tyst am bob sesiwn. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan y myfyrwyr, a gododd yr eirfa roeddynt wedi’i dysgu yng Nghyfnod Allweddol 3 yn gyflym iawn, a dechrau gwneud cynnydd y tu hwnt i’w lefel flaenorol.
Ar ôl y sesiynau hyn, roedd y myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda at yr ymweliad â Sbaen. Mae’r ysgol eisoes yn ymwneud â chyfnewid tair ffordd ag ysgolion yn Sweden a Zarautz yng ngwlad y Basg. Gyda chydweithrediad y staff yn Instituto Lizardi yn Zarautz, trefnwyd llety yn yr hostel ieuenctid ardderchog a rhoddwyd manylion am yr ymweliad arfaethedig i’r myfyrwyr. Ni fyddai tâl am y trip, ac eithrio blaendal bychan y byddid yn ei ddychwelyd.
Yn anhygoel, ychydig iawn o fyfyrwyr a benderfynodd fynd i Zarautz. Rhoddwyd rhesymau amrywiol am hyn: roedd ffrindiau myfyrwyr mewn grwpiau eraill ac felly ni fyddent yn mynd ar yr un pryd; nid oedd rhai myfyrwyr yn hoffi teithiau hir mewn bws; allai eraill ddim eisiau aros mewn hostel ieuenctid ar unrhyw gyfrif! Rhyw 40 myfyriwr yn unig a aeth ar ddwy daith.
20 awr yn unig a gymerodd y daith o’r ysgol i Zarautz. Roedd dwy ystafell ddosbarth yn yr hostel a oedd at ein defnydd bob bore i gael gwersi. Rhoddwyd y gwersi gan y ddau athro Sbaeneg a aeth ar bob trip. Rhannwyd y myfyrwyr yn ddau grŵp, gan drafod dau bwnc ar bob un o’r tri diwrnod. Arweiniodd un pwnc at gynhyrchu darn ysgrifenedig yn rhoi gwybodaeth bersonol, roedd y llall yn cynnwys ysgrifennu deialog a’i pherfformio ar dâp. Ar ôl rhyw wyth awr o waith iaith, roedd gan fyfyrwyr swmp da o dystiolaeth ysgrifenedig ac ar dâp yn ffrwyth eu llafur.
Byddai pob bore’n gorffen gyda gweithgaredd ymarferol yn y dref, megis prynu eitem o fwyd a chael derbynneb neu gael cyfarwyddiadau i fan arbennig. Bob diwrnod, cofnododd y myfyrwyr y gweithgareddau roeddynt wedi cymryd rhan ynddynt. Roedd hi’n amlwg o’r holiadur / hunanasesiad a lenwodd y myfyrwyr ar ddiwedd ein hymweliad iddynt fwynhau eu profiad ac iddynt ddatblygu agwedd fwy cadarnhaol at ddysgu iaith.
Neilltuwyd y prynhawniau i weithgareddau diwylliannol a ddarparodd ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth i’r ymchwiliad unigol yn y gydran Cymru, Ewrop a’r Byd. Roedd yr ymweliad â Guernica’n arbennig o ddiddorol. Mae’r Amgueddfa Heddwch ryfeddol yn coffáu heb unrhyw chwerwder fel y bu i Leng Condor yr Almaen fomio’r dref ar ddyddiau marchnad, gan hawlio bywydau miloedd o drigolion ac ymwelwyr yn ystod diwrnodau tywyll Rhyfel Cartref Sbaen. Mae Coeden Guernica’n cynrychioli hawliau pobl gwlad y Basg, yn mynd yn ôl am ganrifoedd. O weld hyn, gwnaed nifer o gymariaethau rhwng Cymru a gwlad y Basg.
Hefyd ymwelodd y myfyrwyr â phorthladd pysgota o’r enw Getaria, lle cawsant eu tywys o gwmpas yr ystafelloedd arwerthu pysgod yn ogystal ag un o’r nifer o longau pysgota lleol. Cafodd y myfyrwyr siom ar yr ochr orau o ran pa mor ddiddorol roedd hyn! Eto, cododd cymariaethau ag economi Cymru o’r ymweliad hwn.
Roedd y gweithgareddau gyda’r nos yn cynnwys mynychu perfformiad gan grŵp gwerin lleol adnabyddus mewn stiwdios teledu yn San Sebastian a chael gwahoddiad i fwyta yng nghartrefi teuluoedd lleol. Staff o Instituto Lizardi a fu mor garedig â threfnu’r ddau ymweliad hwn. Roedd nifer o fyfyrwyr yn arswydo rhag meddwl am gael pryd yng nghartrefi teulu nad oeddynt yn eu hadnabod, eto dyma’r rhan fwyaf cofiadwy o’n taith i Sbaen yn y pen draw.
Cafodd y myfyrwyr hynny a aeth i Zarautz brofiad gwych ar sawl lefel gwahanol, yn ieithyddol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Roedd Unilang wedi bod yn baratoad rhagorol. Fodd bynnag, roedd yn ffordd ddrud iawn o gwblhau’r modiwl iaith gyda chyn lleied o fyfyrwyr. Efallai bod angen mynd ati mewn ffordd wahanol yn ail flwyddyn y rhaglen beilot.
BLWYDDYN DAU 2004-2005
Yn y grŵp blwyddyn yma, roedd tua deg ar hugain o fyfyrwyr wedi astudio Ffrangeg hyd at lefel TGAU neu’r tu hwnt. Y brif flaenoriaeth oedd cael rhagor o fyfyrwyr i gwblhau’r modiwl iaith ac felly gwneud y broses yn fwy cost effeithlon. Yn dilyn llwyddiant ieithyddol y teithiau i Sbaen, penderfynwyd ymestyn y dull hwn a rhedeg ymweliad chwe diwrnod dwys i Ogledd Ffrainc. Y tro hwn, ni fyddai mewnbwn iaith cyn yr ymweliad dramor. Aeth 87 myfyriwr i Ffrainc, felly llwyddwyd i ddyblu a throsodd y nifer o’r flwyddyn flaenorol, a gwnaeth bob un ohonynt y gwaith roedd ei angen i’r modiwl iaith. Talodd pob un swm bychan, sef £25.
Y lleoliad a ddewiswyd i’r ymweliad hwn oedd Chateau du Tertre yn Ne Normandie. Gan fod angen i ni groesi Dover-Calais oherwydd y gost, ychydig oriau’n fyrrach oedd y daith yn y bws na’r daith i Zarautz. Trefnwyd y daith gan PGL, sy’n adnabyddus am eu gwyliau gweithgareddau i blant.
Roedd diwrnod nodweddiadol yn cynnwys brecwast am 8 y bore, ac yna sesiwn awr ar agwedd benodol ar yr iaith, megis dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y dref. Staff PGL oedd yn rhoi’r gwersi, er bod ein staff ni hefyd yn mynychu’r gwersi, yn rhannol o ran diddordeb ac yn rhannol i roi cefnogaeth. Roedd ymdrin â rhyw ugain o fyfyrwyr dwy ar bymtheg oed yn brofiad newydd i athrawon PGL, ond llwyddon nhw i addasu’n dda a mwynhau’r profiad yn fawr. Ar ôl dechrau araf, roedd ein myfyrwyr yn cydweithio’n dda ac yn frwd ar y cyfan.
Ar ôl i’r addysgu ffurfiol ddod i ben, y cam nesaf oedd rhoi’r iaith a ddysgwyd ar waith, a oedd yn golygu ymweld â nifer o drefi lleol. Roedd y dref arbennig wedi’i phennu gan natur yr iaith i’w hymarfer, er enghraifft, ble roedd y farchnad agosaf yn cael ei chynnal. Synnodd nifer o’n myfyrwyr wrth ddarganfod bod Ffrancod wir yn deall yr hyn roeddynt yn ei ddweud, a’u bod hwythau yn eu tro’n deall yr ymatebion! Ar ôl dychwelyd i’r Chateau, cafodd y myfyrwyr help i ysgrifennu dyddiadur yn Ffrangeg yn nodi’r hyn roeddynt wedi’i wneud y diwrnod hwnnw.
Treuliwyd gweddill y diwrnod yn gwneud gweithgareddau corfforol, yn amrywio o ddringo ac abseilio i saethyddiaeth neu bêl-fasged. Roedd sawl mantais i’r gweithgareddau hyn: roeddynt yn galluogi’r myfyrwyr i ddod at ei gilydd a datblygu ysbryd tîm; roeddynt yn apelio at nifer o fyfyrwyr a oedd wedi teimlo bod y gweithgareddau iaith yn dipyn o her; roeddynt yn helpu i flino myfyrwyr a fyddai fel arall wedi gallu cadw i fynd drwy’r nos yn hytrach na’r rhan fwyaf ohoni. Treuliwyd pob nos yn y bar yn chwarae pŵl neu binbel.
Elwodd y myfyrwyr yn fawr yn ieithyddol ac yn gymdeithasol ar y daith hon. Fodd bynnag, prin ugain awr a dreuliwyd ar yr iaith, a dim ond ychydig o dystiolaeth ysgrifenedig oedd ganddynt ar y diwedd. Anfantais arall, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, oedd na chafodd y myfyrwyr unrhyw help penodol gyda’u hymchwiliadau unigol, gan fod y profiad diwylliannol wedi’i gyfyngu i raddau helaeth i’w harsylwadau ar fywyd Ffrainc yn y trefi yr ymwelwyd â nhw. Ond, mae’r ffaith fod 87 o fyfyrwyr wedi cwblhau’r gwaith sydd ei angen ar gyfer y modiwl iaith yn fantais fawr o ran y nifer terfynol y gellid disgwyl iddynt gwblhau CBC o’r grŵp blwyddyn penodol hwnnw.