- English
- |
- Cymraeg
Ysgol Gatholig Cardinal Newman
Ann Lewis
1. Cefndir
Ysgol Gatholig 11-18 ym Mhontypridd yw Cardinal Newman. Roedd yr ysgol yn un o’r canolfannau peilot yn y garfan gyntaf.
Yn yr ysgol, caiff y Modiwl Iaith ei gyflwyno dros ugain awr ar yr amserlen gan athro, yn yr ystafell ddosbarth yn bennaf.
Eidaleg oedd yr iaith a ddewiswyd. Er bod nifer fechan yn cymryd Eidaleg ar hyn o bryd yng nghyfnod allweddol 4, ni fyddai’r myfyrwyr CBC wedi astudio’r iaith ar lefel TGAU. O ganlyniad, tybiwyd ei bod yn ddewis addas, gan y byddai pawb yn dechrau o’r un man cychwyn o ran gwybodaeth a phrofiad blaenorol o’r iaith.
2. Dull o fynd ati i gyflwyno'r modiwl iaith
Cyflwynwyd yr iaith ‘yn draddodiadol’ ar y cyfan, yn yr ystafell ddosbarth, mewn dosbarthiadau wedi’u harwain gan yr athro. Roedd problemau posibl o ran argaeledd adnoddau yn yr ysgol, a chost cludo myfyrwyr i fannau eraill i ddefnyddio labordai iaith, ac ati, yn ffactorau allweddol wrth wneud y dewis hwn.
Dewiswyd pwnc ‘Bwyd’ ac yn fwy penodol, ‘Bwyta Allan’ yn ganolbwynt i’r dysgu iaith. Teimlid y byddai’r maes hwn yn apelio’n fwy at fyfyrwyr oherwydd bod cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith a ddysgwyd mewn sefyllfaoedd go iawn mewn bwytai Eidalaidd yn y DU. Yn ddamcaniaethol, byddai hyn yn osgoi’r math o ymateb ‘Beth yw’r pwynt – dw i byth yn mynd i fynd i’r Eidal beth bynnag’ sy’n codi weithiau, a byddai posibiliadau defnyddio’r iaith yn eu bywyd go iawn hefyd yn ysgogi myfyrwyr i ddysgu.
Nod y cwrs oedd galluogi myfyrwyr i ddysgu a deall yr iaith angenrheidiol ar gyfer bwcio bwrdd, a phryd o fwyd a diodydd mewn bar neu fwyty, a’n nod oedd trefnu pryd o fwyd mewn bwyty Eidalaidd lleol ar ddiwedd y cwrs, fel y gallai’r myfyrwyr ymarfer yr wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ugain sesiwn o awr. Os nad oedd hyn yn bosibl, byddem yn recordio’r myfyrwyr ar fideo’n gwneud ‘chwarae rôl mewn bwyty’ neu gellid paratoi pryd o fwyd Eidalaidd yn yr ysgol.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n bennaf ar sgiliau Gwrando, Siarad a Darllen. Yr unig waith ysgrifenedig yw cymryd nodiadau, ymchwilio ac ateb cwestiynau ‘cwis’.
3. Amserlen a Staffio
Yn ystod blwyddyn gyntaf y peilot, dysgwyd dau grŵp o 15-10 myfyriwr ar fore dydd Iau am y ddwy wers awr o hyd gyntaf (awr i bob grŵp). Felly amserlennwyd y cwrs i redeg am ugain wythnos er mwyn ateb gofynion y Modiwl Iaith.
Yn yr ail flwyddyn, dysgwyd un grŵp unwaith yr wythnos ar brynhawn dydd Iau.
Mae CBC wedi’i amserlennu ar ddydd Iau am y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’r Modiwl Iaith wedi dechrau ym mis Ionawr. O ganlyniad, roedd myfyrwyr yn aml yn cael eu ‘benthyg’ o’r gwersi iaith i gwblhau gweithgareddau Dug Caeredin, portffolios sgiliau allweddol neu roeddynt yn aml yn absennol oherwydd arholiadau, cyfnodau astudio neu brofiad gwaith ac ati, felly bu’n anodd iawn dod o hyd i’r 20 awr angenrheidiol ar gyfer y Modiwl Iaith.
Mae cysylltiadau ag aelodau eraill o’r Tîm Cyflwyno CBC wedi bod yn gymharol wan, er y bu trafodaethau anffurfiol cyson â Chydlynwyr CBC. (Cafodd rôl y Cydlynydd CBC gwreiddiol ei gymryd drosodd gan aelod arall o staff ar ôl y flwyddyn gyntaf).
4. Materion yn ymwneud ag adnoddau
Ni threfnwyd unrhyw deithiau iaith yn rhan o’r Modiwl Iaith, a hyd yma, nid yw’r trip i’r bwyty wedi digwydd. O ganlyniad mae’r cyllid wedi’i gadw i’r lleiafswm posibl.
Rhoddir taflenni geirfa, bwydlenni a thaflenni gwaith i’r myfyrwyr a baratowyd gennyf, neu a addaswyd o ddeunyddiau TGAU. Ac eithrio ymweliad â’r siop Tesco leol i ymchwilio i ddylanwad yr Eidal a bwyd yr Eidal ar y DU, mae’r cwrs wedi’i gyflwyno yn yr ysgol yn unig.
5. Ymatebion y myfyrwyr
Ar y cyfan, mae ymateb y myfyrwyr wedi bod yn eithaf cadarnhaol, ac mae pawb wedi teimlo iddynt ddysgu rhywbeth erbyn diwedd y cwrs. Yn yr ystafell ddosbarth, nid yw cymhelliant y myfyrwyr wedi bod yn dda iawn bob amser, ac mae bron pob un ohonynt wedi bod yn gyndyn o wneud unrhyw waith dysgu gartref neu yn ystod eu hamser rhydd. Felly mae unrhyw ddysgu’n digwydd fwy neu lai yn yr ystafell ddosbarth yn unig.
Mae myfyrwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i’r dewis o bwnc, ac i’r ffaith nad oes llawer o bwyslais ar ysgrifennu.
6. Cadw Dyddiadur a Chofnodion a hunanasesiadau myfyrwyr
Dyma faes rydyn ni’n bwriadu ei adolygu. Yn y flwyddyn academaidd 2004-5, cafodd myfyrwyr restr o amcanion a gweithgareddau i’w gwneud yn ystod y cwrs, a thaflen hunanasesu syml, er mwyn hwyluso’r broses o gadw cofnodion. Er bod cofrestr yn cael ei chymryd yn ofalus iawn, doedd dim pwysau ar fyfyrwyr i lenwi eu dyddiaduron ym mhob gwers. Yn wir, mae llawer o’r myfyrwyr yn ‘anghofio’ dod â’u nodiadau i’r gwersi, neu’n eu gadael nhw gartref oherwydd eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd arall neu daith yn ystod y dydd. Mae hyn wedi bod yn rhwystredig iawn, ac yn sicr mae wedi amharu ar y potensial o ran cynnydd.
Bu’r myfyrwyr yn paratoi taflen hunanasesu syml iawn gan ddefnyddio gosodiadau ‘Dw i’n gallu...’ wedi’u seilio ar amcanion y Modiwl Iaith. Eto, nid yw hyn yn rhan ffurfiol o’r gwersi iaith. Mae angen rhoi rhagor o sylw i fonitro bod y myfyrwyr yn llenwi’r ffurflen hon.
8. Ystyriaethau am gyflwyno'r Modiwl Iaith
- Mae nifer o wersi wedi’u dysgu o ran 'Sut i beidio â'i wneud e'’ o’r problemau rwyf wedi dod ar eu traws.
- Y flwyddyn nesaf, bydd y Modiwl Iaith yn cael ei amserlennu’n gynt yn y flwyddyn ac ni fydd yn cael ei amserlennu ar yr un diwrnod â sesiynau CBC eraill. Dylai hyn ei gwneud hi’n haws cyflwyno’r ugain awr sydd eu hangen er mwyn cwblhau’r Modiwl, gan na fydd y myfyrwyr yn cael eu ‘cymryd’ i fannau eraill ar gyfer gweithgareddau CBC eraill, i gael cyfnod astudio neu brofiad gwaith.
- Bwriedir meithrin cysylltiadau mwy clòs ag aelodau eraill o dîm cyflwyno CBC. Bydd hyn yn ein helpu i gael gwell gafael ar y darlun mawr a sut mae’r Modiwl Iaith yn rhan o CBC yn ei gyfanrwydd.
- Er bod hynny'n mynd 'yn groes i'r graen' rydyn ni wir yn ystyried cael myfyrwyr i wneud nodiadau yn yr ystafell ddosbarth o wythnos i wythnos er mwyn osgoi’r rhwystredigaeth o orfod llungopïo nodiadau bob wythnos i’r rhai sydd wedi anghofio dod â’u ffolderi iaith.
- Ond, gan fod y Modiwl Iaith wedi’i amserlennu ar ddiwrnod gwahanol y flwyddyn nesaf, gall fod yn fwy llwyddiannus o ran cael y myfyrwyr i ddod â'u ffolderi bob wythnos, ac i fynd â nhw adref er mwyn dysgu! Bwriedir mabwysiadu’r dull hwn dros dro i weld sut aiff hi ac adolygu’r sefyllfa ar ôl rhai wythnosau. Yn amlwg, mae rhoi sylw i’r materion hyn yn allweddol er mwyn sicrhau y cedwir cofnodion