- English
- |
- Cymraeg
Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt
Masnach Deg
Peter Ward
Fel rhan o’r BAC mae ein myfyrwyr wedi astudio masnach rydd a theg ac eleni penderfynwyd mai dyma fyddai canolbwynt ein prosiect Cymhwyso Rhif.
Mae’r rhan yma o elfen Addysg Bersonol a Chymdeithasol y BAC yn cael ei chyflwyno gan arweinydd ein hadran daearyddiaeth. Ceir darlithiau, taflenni a darllen wedi’i gyfeirio a bydd y myfyrwyr hefyd yn gwneud ymchwil bersonol, ar y we gan fwyaf. Ar ôl cyflwyno’r sesiwn gyntaf, ystyriwyd y pynciau a drafodwyd a phenderfynwyd canolbwyntio ar bwnc masnach deg mewn coffi gan ei fod o ddiddordeb i’r myfyrwyr ac yn ymddangos fel petai’n rhoi cyfleoedd i ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth a hefyd yn ateb meini prawf Cymhwyso Rhif.
Edrychwyd ar yr adnoddau a awgrymwyd ac a drafodwyd eisoes yn y sesiynau BAC, daethpwyd o hyd i rai eraill a chrëwyd taflen gychwynnol gan gynnwys y graff gorfodol. Roedd dehongli’r map hwn yn rhoi sawl cyfle i’r myfyrwyr ddangos meini prawf Cymhwyso Rhif, gan gynnwys:
- darllen a dadansoddi’r graff
- cyfrifo incwm
- cyfrifo modd
- cyfrifo elw
- trosi rhwng unedau (roedd y rhan fwyaf o’r data’n defnyddio $ a thunelli metrig; roedd y graffiau’n defnyddio ‘cents’ a ‘lbs’)
Cafwyd data ychwanegol o adran ystadegau’r Cenhedloedd Unedig felly roedd modd gwneud rhagor o gyfrifon gan ddod i ddeall mwy am y gwahaniaeth y byddai’r pris rhyngwladol wrth glwyd y fferm a’r pris masnach deg yn ei wneud i ffermwr coffi a’r rhai sy’n dibynnu arno. Gwnaed y cymariaethau hyn gyda’r rhan fwyaf o’r cenhedloedd yn y byd sy’n cynhyrchu coffi a daeth y gwahaniaethau enfawr yn eu cyfraddau cynhyrchu a’r defnydd o dir yn amlwg.
Yn gynnar wrth ddatblygu’r prosiect hwn, daeth yn amlwg i’r myfyrwyr i gyd gymaint yn haws, h.y. yn llai diflas, oedd y tasgau o’u gwneud gan ddefnyddio rhaglen taenlenni ar y cyfrifiadur. Roedd hyn yn agoriad llygad i rai a oedd wedi arfer casáu Excel. Yn ogystal, llwyddodd rhai myfyrwyr a oedd wedi meddwl iddynt roi’r gorau i fathemateg, i wir fwynhau a magu ymdeimlad gwirioneddol iddynt gyflawni rhywbeth a daethant i gredu yn eu gallu eu hunain wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Wedyn cafodd y briff cychwynnol ei ledu i gynnwys agweddau ar feini prawf Sgiliau Allweddol Technoleg Gwybodaeth, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â thaenlenni a thrafod data. Wrth ymwneud â’r gynhadledd Sgiliau Allweddol a chreu montage, cafodd pob un o’n myfyrwyr gyfle i gyfrannu delwedd neu eitem i’w hystyried i gael ei chynnwys, drwy e-bost.
Canlyniad hyn i gyd yn y pen draw yw bod gan ein myfyrwyr ddealltwriaeth well a dyfnach o goffi masnach rydd, ei amcanion a’i oblygiadau; maent wedi dangos eu gallu i gymhwyso eu sgiliau Cymhwyso Rhif, Technoleg Gwybodaeth a chyfathrebu a bydd pob un wedi cynhyrchu adroddiad manwl a llawn gwybodaeth.